Episode details

Available for over a year
Hela鈥檙 Dryw Bach Dwi鈥檔 ei hela yn y coed ac yn y caeau. Yn ei ddilyn trwy ddail eiddew, heibio tafodau鈥檙 menyn eithin a brigau鈥檙 celyn ond mae鈥檔 rhu chwim. Mae鈥檔 troi yn eog, y tric arferol, a dwi鈥檔 plymio mewn i鈥檙 afon, yn ei geisio yn y dyfroedd oer-las, eirias, d诺r sy鈥檔 drydan drwy鈥檙 tu mewn. Ond mae o鈥檔 chwerthin am fy mhen, yn llamu fyny鈥檙 pistyll a throi yn llwynog cringoch, ac yn rhedeg am y dre. A dwi鈥檔 dal i鈥檞 ddilyn, trwy鈥檙 strydoedd prysur a鈥檜 golau pinc a gwyrdd a gwyn, ond mae鈥檔 diflannu yn y dorf. Y tro nesa dwi鈥檔 ei weld dwi鈥檔 gyrru i鈥檙 gwaith, ac mae鈥檔 croesi鈥檙 l么n o鈥檓 blaen yn ddarn o bapur lapio, neu鈥檔 robin goch, neu鈥檔 ddeilen grin. Ac mae鈥檙 wawr sy鈥檔 torri o mor hwyr yn taflu ei llwch i mewn i鈥檓 llygaid a鈥檓 dallu. Ac mae鈥檔 diflannu eto, yn troi yn lwmp o lo, yn bapur ddoe, yn droed 么l draenog, yn benglog bran, yn bwdin plwm, yn fwlb wedi torri, yn faneg goll, yn 鈥榯urkey meal for one鈥�, yn set monopoly, yn goron gracer, yn fatsien. Neithiwr, mi welais y dryw bach ar lain o wair a phwt o wrych rhwng cefnau鈥檙 tai a鈥檙 briffordd. Y brenin bach a鈥檌 big yn y bregliach yn chwilio am dyfiant newydd. Grug Muse
Programme Website