Episode details

Available for over a year
"Does 'na ddim cywilydd cyfaddef eich bod yn alcoholig ac heb os fe wnaeth cael cymorth proffesiynol fy helpu i ddeall gwraidd y broblem," medd Elfed Wyn ap Elwyn sydd bellach yn un o gynghorwyr Cyngor Sir Gwynedd. Dywed ei fod yn gwybod na fyddai wedi bod yn ŵr, tad na chynghorydd petai e ddim wedi cael cymorth. "Fel na'th dyn yr AA ddeud wrthai, does yna ddim cywilydd. Mi all o ddigwydd i rhywun - ac wedi mynd yno fe ddaeth ryw don o ryddhad. Dyw e ddim bwys pryd mae rhywun yn deffro i'r broblem - yn eich ugeiniau neu yn eich saithdegau - ond pan 'dach chi'n deffro i'r broblem dyna ddechrau eich bywyd newydd," meddai. Mae'n pwysleisio hefyd bod y broses wedi cryfhau ei ffydd.
Programme Website