Episode details

Available for over a year
Pan fod ie鈥檔 ddigon Heddiw, ar bnawn Sadwrn prysur llawn siopwyr, mi gerddais drwy goedwig y baneri cochion a chlywed s诺n curiadau calonnau鈥檔 drymio鈥檔 daer yn curo, curo ar waliau鈥檙 ddinas, ac fe deimlais innau 鈥檔gwaed yn rhedeg rhyw fymryn yn gynt, am i mi glywed 鈥業e鈥� ar y gwynt a鈥檌 weld ar wefusau pobl wrth fynd heibio, eu gweld yn nodio, yn cytuno 鈥� fi a鈥檙 miloedd eraill fu yno鈥檔 martsio, yn gobeithio, yn breuddwydio, yn dymuno gweld pethau da yn digwydd unwaith eto. Gweithred lon o gredu yw dweud 鈥業e,鈥� chi鈥檔 gweld, mae鈥檔 wahanol, yn gadarnhaol, yn ddewis bod yn adeiladol ac yn y broses ein gwneud ninnau鈥檔 bobol sy鈥檔 mynnu cynnydd yn lle cyni, bod yn ddewr yn lle ofni. Achos am yn rhy hir fe drodd bob dim yn llwch dan gysgod hyll hen goncwerwr, a nawr fe wyliwn ni wingo angheuol yr ymerawdwr hunan-niweidiol a鈥檌 stumiau creulon yn crafu a chrafangu gan frifo pawb o fewn cyrraedd ei ddeg-ewin negyddol. Ond yn dawel bach, fe ddywedwn ni 鈥業e ... Ie ... Ie ...鈥� eto ac eto, yn uwch, yn uwch bob tro, hyd nes i鈥檔 lleisiau godi鈥檔 llu, yn rhu llawen, a phawb i ddechrau gwenu, achos peth da yw dweud 鈥業e鈥� i bethe 鈥� mae鈥檔 gam tua鈥檔 goleuni.
Programme Website