麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio 4,07 Dec 2022,28 mins

Series The Four Freedoms

2. Rhyddid i Addoli

The Reith Lectures

Available for over a year

Rowan Williams cyn Archesgob Cymru a Chaergaint yn traddodi ei ddarlith Reith i'r 麻豆社 yn y Gymraeg gan drafod ffydd a rhyddid. Yn 么l yr Arglwydd Acton, yr awdur ar ryddid o'r 19 ganrif a ddyfynnir yn y ddarlith, rhyddid crefyddol yw sail pob rhyddid gwleidyddol. Mae Rowan Williams yn cymhwyso hyn yng nghyd destun De Affrica, y gwrthdaro yn y ddadl gyfoes am erthylu ac amryw bynciau eraill. Dadleuir fod rhyddid i addoli yn gorfod cynnwys y rhyddid i fynegi argyhoeddiadau yn ogystal a'r rhyddid i gyd-gyfarfod. Recordiwyd y fersiwn Saesneg o'r ddarlith a sesiwn cwestiwn ac ateb o flaen cynulleidfa ym Mhrifysgol Abertawe gydag Anita Anand yn cyflwyno. Cyflwynir y ddarlith yn y Gymraeg gan John Roberts. Araith yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt yn 1941 ar y pedwar rhyddid yw鈥檙 ysbrydoliaeth ar gyfer darlithoedd Reith 2022 gan holi pa mor hanfodol yw'r pedwar rhyddid heddiw. Traddodir pedair darlithydd yn Saesneg. Darlith Rowan Williams yn unig sydd wedi ei recordio yn y Gymraeg. Trafodir: Rhyddid i lefaru gan Chimamanda Ngozi Adichie, Rhyddid i addoli gan Rowan Williams, Rhyddid rhag angen gan Darren McGarvey, Rhyddid rhag ofn gan Fiona Hill. Cynhyrchydd y gyfres: Jim Frank Cynhyrchydd y fersiwn Gymraeg: John Roberts (Cwmni Tonnau Cyf.) Peirianwyr sain: Rod Farquhar, Neil Churchill a Gareth Turrell Cydlynydd cynhyrchu: Brenda Brown Golygydd: Hugh Levinson

Programme Website
More episodes