Episode details

Available for over a year
Cyfarfyddiad Y dyddiau hyn, byddaf yn gwedd茂o o dan goeden, neu yn eistedd ymhlith emynau鈥檙 peilon trydan achos bob nos heb gysgu, y blancedi gwely fel flotsam a jestsom, does dim lle am atebiad Duw. Heddiw, yn ystod y wawr tra bo鈥檙 holl d欧 yn dal i gysgu es i 芒 fy hun i'r maes lle gwelwyd yr UFO gan y trigolion ar waelod y Garth, lle oedd y tarth yn codi dringais dros ffens weiren bigog yn chwilio am arwyddion 鈥榝furf-bywyd estron鈥� Cynhyrfodd grym anhysbys guriad fy nghalon wrth i mi sefyll yno yn gwisgo si么l dylluan Roedd creithiau llosg ar foncyffion coed o'r llong ofod wedi gordyfu 芒 ffyngau Gorffwysais fy nwylo yno, ar y ffyngau si芒p clustiau Yn aros am gyfarwyddiadau . . . Llanwasant y lle, yn yr awyr uwch ben yr hesg a鈥檙 ysgall y fronfraith brysur, y gnocell werdd yn tapio neges, grawcian y gigfran, hyd yn oed fi yn tisian. Daeth yr ysgrythur cosmig ar siffrwd canghennau, cynghanedd y coed trwy ddail yn cael eu gwasgaru
Programme Website