麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,2 mins

'IoNawr IoNewydd' - Sion Tomos Owen (Bardd y Mis)

Aled Hughes

Available for over a year

IoNawr IoNewydd Sut mae dathlu diwedd blwyddyn a dechrau un arall? Beth yw鈥檙 wers i ddysgu trwy ynysu鈥檙 eiliadau penodol i ddarganfod dyfodol obeithiol o bresenol canol n么s pan ddaw'r tic ola toc diwedd Rhagfyr? Pan ddown ni at ddechrauad newydd nefol bob 29.5 dwrnod y cylch lleuad? Pan mae'n planed pitw ni'n troelli rownd yr haul, mewn cysawd bach o fewn bydysawd sy'n fwy nac gall ein mesuriadau fathemategol gyfri? Nace, trwy addewidion. Y planhigion t欧 o obeithion dyn; Llawn gobaith i ddechrau cyn blino a troi'n llipa yn syllu arnoch o bell tra bo chi'n mwydro am beth allech chi wedi wneud yn well? Blwyddyn newydd, Fi newydd. Sgwennu rhestr mewn trefnydd newydd. Urddas y rhif olynol embossed ar flean y clawr, fel tatw dros-dro y dyfodol, fydd yn diflanu ymhen 365 diwrnod. Arogl fresh y gwaglefydd i lenwi, clywed crac cadarnhaol mis Ionawr yn agor, a co鈥檙 cychwyn cyntaf i rhestri beth sy'n rhaid i mi wneud... Felly; Dwi angen adeiladu shed, Adeiladu perthynas gwell 鈥榙a teulu pell, Adeiladu silffoedd yn y cwtch Adeiladu鈥檙 wal yn y cwtch lle fydd y silffoedd yn hongian, Adeiladu cyhyrrau mwy fel yn y llun ohona'i ar wyliau deng mlynedd yn 么l, cyn magu bol, cyn magu dyled, cyn magu plant, pan oedd rhamant dal yn fyw, pan oedd lliw dal yn fy llygaid, pan oedd fy nhalcen heb grych, pan odd drych yn dangos breuddwydion i ddod nid atgofion o amser a fu. Cyn i orymdaith di-baid amser rhwymo marwoldeb dynol i'n agwedd ar fywyd a ngorfodi i ailystyried creu rhestr fydd yn fy hyrddio allan i anialdir myfyrdod a phendroni nihilaidd, yn crwydro o un mis i鈥檙 llall yn gaddo na'i wneud ddechrauad ohoni wrth i brysurdeb ein cynllyniau ben baladr lewni鈥檙 calendr ond cyn troi rownd, dwi flwyddyn yn hynnach, mae'r tennyn yn dynnach mae'r dyddiau'n fyrrach, ac mae'r byd yn llosgi ei ffordd i mewn i flwyddyn nesaf yn barod!! Ond so'r beiro ma'n gweithio felly na'i ddechreuad newydd arall... fory.

Programme Website
More episodes