Episode details

Available for over a year
Ar 么l Ionawr Tata Ionawr, sa'i moyn neud ffys am fis y duw Rhufeinig, Janus, Duw 芒 dau wyneb, un ymlaen, un yn 么l mis sy' ddwywaith yn boen yn pen-么l. Stormau ac enwau wedi enwebu gan wlybter hinsawdd llawn helig yn ein peltio o bellter, Ma rhein llawer mwy garw na'r misoedd gynt, Sa'i Isha glaw, na niwl, na gwynt, Henk yn hanner can milltir yr awr yn sbwylo crwydro cynnar Ionawr, Jocelyn a'i rhybydd Melyn yn chwythu trampolines ben bryn, Ma'r tywydd yn topig tymhorol ond C'mon Am ych-a-fi o fis yw hon. Blwyddyn y ddraig yw 2024 Arwydd o lwc da, o lewyrch a chryfder, oni bai bo chi'n credu yn y mynnach sy'n mwydran, Nostradamus sy' 'di rhoi Kibosh ar y cyfan, y gwrthwyneb i rheini sy'n dweud "daw haul ar fryn..." ma fe'n rhagfynnegi Rhyfel byd a Daeargryn! Ma Dydd Llyn glas yn hen ddydd cas styc yn y t欧, so neb yn mynd mas, Addewidion, rhaid bo chi'n jocan! Dry January erbyn hyn yn socan. Does dim sales, ma popeth yn ddrud Ma'r cost of living yn costio o hyd. Sortio treth hunan-gyflodedig HMRC'n creu blincin headache. Dim Santes Dwynwen, so d锚t night yn ddoeth pan ma pawb dan flanced gyda potel d诺r poeth, Yn straffaglu da annwyd am dair wthnos neu fwy rhamant yw bwydo Lemsip ar lwy. Hwpa'r 31 dwrnod yn y bin Sa'i moyn mis arall mor salw a hyn, Dwi'n bunged up, ffili canu, dim Do Rei Mi, unwiath eto, dwi di methu rhoi cais C芒n i Gymru. Hancesi, pesychu ac anwyd ac asthma, Mam bach! Dwi'n fflipin ffed up o'r mis ma. A dwi'n gwbod taw first world problems yw rhein i gymharu da'r Congo, Palesteina, Ukraine. pethau anghyfleus nid stwff newid bywyd, A dwi'n lwcus, ga'i sgwennu am hyn heb fy erlid, Nai'm cal fy ngharcharu am gerdd ar y radio, ac mae perspectif fel hwn yn neud i mi gallio. Ma'r t欧 dal yn sefyll, mae mhlant dal i wennu Dwi'n cal fy nhalu i neud cartwns ac i sgwennu am bwdi a cwyno am fis bach yn y gaeaf, Ond byse'n neis ddim i weld Ionawr am flwyddyn arall o leia.
Programme Website