麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,6 mins

Sul y Cofio yn ddiwrnod o 'agor a chau briwiau' i Si么n Prysor Williams

Bwrw Golwg

Available for over a year

Ar Sul y Cofio dywed cyn-filwr o Lanrug ger Caernarfon bod y diwrnod yn bwysig iddo fe wrth iddo gofio am ffrindiau "na sydd efo ni mwyach". Ymunodd Si么n Prysor Williams 芒'r Gwarchodlu Cymreig yn 17 oed ac fe dreuliodd amser yn Afghanistan, Irac a Kenya. "Dwi'n teimlo'n reit drist ar adegau yn meddwl am yr holl bobl sydd ddim yma dim mwy a sydd wedi rhoi eu bywydau er mwyn gwella bywydau eraill mewn gwledydd diarth," meddai. "Mae'n ddiwrnod i sbio n么l ar atgofion da." Ers i Si么n adael y fyddin, mae wedi colli dau o'i ffrindiau o'r catrawd wedi iddyn nhw farw drwy hunanladdiad. "Pan fyddai o flaen y cenotaph dydd Sul, nhw fydd yn fy meddwl i," meddai. Dywed Cymdeithas y Cymod sy'n ymgychu o blaid heddwch ei bod yn "bwysig parchu milwyr a fu drwy'r drin ond bod lle i amau cymhellion gwleidyddol pan mae yna feddylfryd rhyfelgar yn cyniwair a gwariant ar arfau ar gynnydd". Yn gynharach eleni, addawodd Llywodraeth y DU gynyddu gwariant amddiffyn o 2.3% i 2.5% o incwm cenedlaethol erbyn 2027, sy'n golygu gwario 拢13.4bn yn fwy bob blwyddyn tan hynny.

Programme Website
More episodes