麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Cerdd yr Wythnos - Haf Llewelyn (Penllyn)

Y Talwrn

Available for over a year

Telyneg Haf Llewelyn (Penllyn) ar y testun 'Datgloi' yw Cerdd yr Wythnos o'r Talwrn rhwng Penllyn ac Ysgol Farddol Yr Holl Fyd Methu pasio'r lle wnes i, a minnau heb fwriad gwneud dim ar fore'r Pasg ond dilyn y ffordd heibio'r tro. Cip sydyn trwy'r ffenestr, dyna'i gyd - a dacw blentyn yn sipian mint imperial a'i Nain yn canu am waed a chroes a choron ddrain. Dim ond atgof hiraethus, fel bydd rhywun, a minnau'n gwenu - mor fydol, ddoeth. Nes i s诺n y glicied sgrialu amheuon hyd styllod y llawr, heibio corneli'r meinciau a'r tyllau pryfaid, i greu cynnwrf trwy ddalennau llychlyd y beibl mawr, a siffrwd rhwng y petalau gwyw - cyn setlo'n nodau lleddf rhwng y distiau. Trof yn 么l am y ffordd a heibio'r tro, a blodau'r ddraenen ddu yn lludw hyd y cloddiau. Haf Llewelyn

Programme Website
More episodes