Âé¶¹Éç

Use Âé¶¹Éç.com or the new Âé¶¹Éç App to listen to Âé¶¹Éç podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,23 Jun 2026,27 mins,

Series Y Podlediad Trosedd

Y Brodyr Darvell - Carcharu ar gam

Lleisiau Cymru
Contains some scenes which some viewers may find upsetting.

Available for over a year

Cyfres sy’n craffu ar rai o achosion troseddol fwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Y cyn-farnwr Nic Parry sy’n cael cwmni’r bobol oedd yn rhan o’r achosion ac sydd yn cofio’r effaith ddofn gafwyd ar gymunedau Cymru, ac yn trafod y penderfyniadau allweddol a’r digwyddiadau dramatig newidiodd fyd yr unigolion ynghlwm â’r achosion. Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r gyfres yn gofyn: sut allai hyn ddigwydd? Pam y digwyddodd hynny? A sut y daethpwyd i’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud? Yn y bennod hon, gohebydd arbennig Âé¶¹Éç Radio Cymru, Garry Owen sydd yn ail-fyw hanes llofruddiaeth Sandra Phillips yn Abertawe yn 1985. Achos a ddaeth yn un o anghyfiawnderau mwyaf cofiadwy Cymru. Fe glywn sut y carcharwyd dau frawd bregus ar gam, ac am yr ymgyrch am gyfiawnder. Cynhyrchiad Meicro Cyf ar gyfer Âé¶¹Éç Radio Cymru

Programme Website
More episodes