Âé¶¹Éç

Sut rydym ni’n gwella gwasanaeth chwilio’r Âé¶¹Éç

Mae’r Âé¶¹Éç yn credu y dylai’r gwasanaeth chwilio fod yn ddeallus, yn reddfol ac yn glir. Dyna pam ein bod ni’n rhannu sut rydym ni’n defnyddio deallusrwydd artiffisial i wella eich profiad o chwilio gyda’r Âé¶¹Éç ac yn rhoi gwybod am y camau rydym ni’n eu cymryd i sicrhau bod y canlyniadau sy’n codi wrth i chi chwilio yn ddefnyddiol, yn deg ac yn ddibynadwy.

Diweddarwyd: 29 Medi 2025

Rydym ni’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i’ch helpu chi i ddod o hyd i ganlyniadau gwell

Rydym ni’n cyflwyno technolegau arbenigol i sicrhau bod ein gwasanaeth chwilio yn fwy cywir, perthnasol a greddfol. Dyma rai enghreifftiau:

Dysgu beth sy’n gweithio: defnyddio signalau data i drefnu canlyniadau

Pan fyddwch chi’n rhoi geiriau neu nodau yn y blwch chwilio rydym ni’n eu defnyddio i ddod o hyd i gasgliad o ganlyniadau a allai fod yn berthnasol, ac yna yn eu trefnu gan geisio rhoi’r canlyniadau fwyaf perthnasol ar frig eich rhestr ganlyniadau. Ar hyn o bryd rydym yn profi’r gwasanaeth ar iPlayer a Sounds ar apiau symudol, ar y teledu ac ar y we i weld pa signalau sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf — mae’r signalau hyn yn cynnwys gwybodaeth fel pa gynnwys sy’n boblogaidd ar hyn o bryd, a pha ganlyniadau y mae pobl eraill sydd yn chwilio am bethau tebyg wedi eu dewis.  Dros amser, byddwn ni’n dysgu pa signalau sy’n gweithio orau, a byddwch chi’n fwy tebygol o weld y canlyniadau rydych chi’n chwilio amdanynt yn gyflymach.  

Gwasanaeth chwilio clyfar sy’n deall beth rydych chi’n ei olygu

Rydym ni’n gwybod bod cael canlyniadau amherthnasol wrth chwilio yn gallu bod yn rhwystredig. Y rheswm eich bod yn cael canlyniadau amherthnasol yw bod y gwasanaeth chwilio traddodiadol yn chwilio am y geiriau rydych chi’n eu teipio, heb ystyried beth yw’r ystyr. Rydym ni wrthi’n profi ffordd newydd o chwilio, sef chwilio semantig, ac yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddeall beth rydych yn ei olygu. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael canlyniadau sy’n fwy perthnasol, hyd yn oed os nad yw’r geiriau yn cyfateb yn union. Byddwn ni’n dechrau profi’r gwasanaeth ar wefannau newyddion yn nhymor yr hydref 2025, a'r bwriad yw darparu canlyniadau deallus, perthnasol a defnyddiol i chi.

Gwerthusiad all-lein i sicrhau tegwch ac ansawdd

Cyn i unrhyw fodel deallusrwydd artiffisial gael ei ddefnyddio’n fyw, rydym yn ei brofi’n drylwyr drwy gynnal gwerthusiad all-lein. Mae hyn yn cynnwys gweld sut mae’r model yn trin data hanesyddol a mesur pa mor dda mae’n perfformio wrth ymateb i wahanol ymholiadau gan ddefnyddwyr. Rydym yn edrych ar:

  • Berthnasedd a chywirdeb
  • Amrywiaeth y canlyniadau
  • Tegwch wrth ymdrin ag amrywiaeth o bynciau a chymunedau

Mae hyn yn ein helpu i sylwi ar broblemau’n gynnar a gwella’n barhaus.

Goruchwyliaeth ddynol

Mae tîm o olygwyr, arbenigwyr ar bolisi golygyddol, ac arbenigwyr ar ddeallusrwydd artiffisial yn adolygu’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ac allbwn ein modelau. Rydym yn monitro ein modelau ac yn chwilio am ragfarn, camwybodaeth ac effeithiau anfwriadol — ac yn barod iawn i dderbyn eich adborth.

Beth Nesaf?

Rydym ni’n parhau i wella sut mae deallusrwydd artiffisial yn eich cynorthwyo chi wrth chwilio. Ar hyn o bryd, rydym ni’n ystyried sut y gallwn ni bersonoleiddio gwasanaethau a defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol wrth chwilio.

Unrhyw gwestiynau?

Bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych! Rhowch gynnig ar chwilio, a chysylltwch â’r Âé¶¹Éç i roi adborth.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: