麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

16 October 2014
Catchphrase, Dyma'r NewyddionCatchphrase

麻豆社 Homepage
Wales Home
Learn Welsh


Catchphrase

Ysbyty Brynaber

Original Catchphrase

Cam ymlaen

The Lloyds

Dyma'r Newyddion

Grammar



Contact Us

lesson, gwers
BWLETIN 4
raGwrandewch
Cwestiynau
Geirfa


1. Bu farw dyn canol oed ar 么l iddo fynd i drafferthion tra roedd ar gefn ceffyl rhwng traeth Popyd a Gwbert ym Mae Ceredigion. Roedd e'n ceisio croesi Afon Teifi pan gynhyrfodd y ceffyl. Syrthiodd y dyn a chafodd ei ysgubo gan y llif.

2. Mae merch ddeunaw oed wedi'i lladd a phedwar person ifanc arall wedi'u hanafu'n ddifrifol wedi damwain car yng Nghaerdydd nos Sul. Bu farw'r ferch ar 么l i'r car lithro i lawr llethr a throi drosodd, nid nepell o ystad ddiwydiannol Llandochau.

3. Aethpwyd 芒 g诺r trigain a phump oed i ysbyty Glan Clwyd wedi iddo gael ei daro gan gar ar y ffordd rhwng Yr Wyddgrug a Sychdyn.

SYLWCH
Pwnc arall sy'n cael cryn sylw mewn bwletiniau newyddiom yw damweiniau o bob math. Sylwch eto ar yr eirfa sy'n gysylltiedig 芒 damweiniau. Sylwch yn arbennig ar y ffurfiau:
Aethpwyd / Aed 芒 . . . . . - . . . . . was (were) taken

Mae pob un o'r eitemau yn y bwletin uchod yn ymwneud 芒 damwain.

4. Dros y Sul cafodd gwraig gant oed ddihangfa lwcus pan gafodd ei hachub o'i bwthyn ym Mhenmon ar Ynys M么n, wedi i d芒n gynnau yn ei hystafell wely. Aed 芒 Jane Bennett i Ysbyty Gwynedd ym Mangor er mwyn sicrhau nad oedd yn dioddef o effeithiau mwg.

5. Mae awyren wedi plymio i'r ddaear yn Nyfnaint. Er bod seddau i ddeugain obobl ar yr awyren, dim ond dau berson - y peilot a'r llywiwr - oedd ar ei bwrdd. Hyd yn hyn, 'dyw'r heddlu ddim wedi cyhoeddi beth yw cyflwr y ddau.

6. Dywed heddlu Dyfed Powys bod ffordd yr A470, ger Llanidloes ar gau ar 么l damwain rhwng dau gar a lori. Cludwyd un wraig i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, mewn hofrennydd, gydag anafiadau i'w chefn a'i gwddf.

7. Cyhoeddwyd mai Ronald Bennett o Fethesda oedd y dyn fu farw yn Chwarel y Penrhyn neithiwr. Credir iddo farw mewn tirlithriad yn y chwarel.

8. Jennifer Trueman o Swindon oedd y ferch ddeunaw oed a fu farw mewn damwain ar y m么r ger Aberdaugleddau ddoe. Roedd hi'n cymryd rhan mewn taith hwylio a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth y Tywysog - a boddodd wedi i'r cwch ddymchwel.

9. Lladdwyd John Williams, chwech a thrigain oed o Lanberis mewn damwain yn Llydaw dros y Sul. Roedd yn aelod o g么r meibion Dyffryn Peris. Syrthiodd i'r m么r oddi ar y cei yn Roscoff.

10. Cyhoeddwyd enw'r ferch a gafodd ei lladd mewn damwain ar fferm ger Rhiwabon echdoe. Roedd Rachel Louise Kearsley yn bedair oed ac yn byw ar fferm Tyddyn Ucha yn Rhosymadog. Credir iddi syrthio o flaen tractor a bod y cerbyd wedi gyrru drosti.

language tools
dictionary
Help / Cymorth
grammar
A comprehensive print-out grammar guide

links
The best of the rest for learning Welsh online

麻豆社 Vocab: A Window into Welsh. Have trouble understanding Welsh on the web? Here's the answer.

Sites in Welsh for your kids
Bobinogi
Tweenies Cymraeg
Celtiaid yr Oes Haearn



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy