Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

16 October 2014
Catchphrase, Dyma'r NewyddionCatchphrase

Âé¶¹Éç Homepage
Wales Home
Learn Welsh


Catchphrase

Ysbyty Brynaber

Original Catchphrase

Cam ymlaen

The Lloyds

Dyma'r Newyddion

Grammar



Contact Us

lesson, gwers
BWLETIN 8
raGwrandewch
Cwestiynau
Geirfa


1. Gwrthododd llywodraeth Indonesia ganiatáu i lu arfog y Cenhedloedd Unedig fynd i Ddwyrain Timor i gadw trefn. Wrth i'r trais barhau yn y wlad, mae degau o filoedd o gefnogwyr annibyniaeth wedi gorfod ffoi.

2. Daeth y gwarchae yn senedd Armenia i ben heddiw a chafodd dwsinau o bobl oedd yn cael eu dal yn wystlon eu rhyddhau. Cyhoeddodd Arlywydd y wlad dridiau o alaru cenedlathol i gofio'r Prif Weinidog a'r saith arall gafodd eu lladd yn y brifddinas, Yerevan.

3. Mewn cyfarfod brys yn Llundain ddoe, penderfynodd gweinidogion tramor y Gymanwlad wahardd gweinidog Pakistan o'u cymdeithas. Mae'r weithred hon yn cael ei gweld fel cam cynta'r gymuned ryngwladol at ynysu'r gyfundrefn filwrol a gipiodd yr awenau yno'n ddiweddar.

4. Mae heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i honiadau fod Piwma'n byw 'n wyllt ym mynyddoedd y Preseli. Cafodd plismyn eu galw i archwilio gweddillion corff dafad ar fferm ger Maenclochog. Mae llawer o bobl eraill hefyd yn honni iddyn nhw weld cath fawr yn yr ardal.

5. Cafodd cwmni Kronospan yn y Waun ger Wrecsam ddirwy o saith deg pump o filoedd o bunnau wedi dwy ddamwain yn eu ffatri - a arweiniodd at farwolaeth un dyn a dihangfa lwcus i un arall. Dywedodd y Barnwr yn Llys y Goron, Yr Wyddgrug y gellid bod wedi osgoi'r damweiniau gydag ychydig mwy o ofal.

6. Yn ystod eu cyfarfod blynyddol, pleidleisiodd Cangen Caernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru o blaid gwrthwynebu penodiad Christine Gwyther yn Llefarydd ar Amaeth yng nghabinet y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r aelodau'n credu bod Ysgrifennydd y Cynulliad, Alun Michael, wedi sarhau'r ffermwyr trwy benodi llysieuwraig i'r swydd.

7. Yn dilyn tân mewn tŷ teras yn Dover, bu farw dau o blant bach a'u mam. Ceisiodd rhai o'r cymdogion fynd i mewn i'r tŷ i achub y teulu, ond trechwyd nhw gan y mwg.

8. Yn Llys y Goron, Caernarfon, carcharwyd dyn o Fangor am dair blynedd am fod â chyffuriau yn ei feddiant. Daeth plismyn o hyd i gannabis a thabledi 'ecstasy' yn nhŷ Ronald Simons, yn dilyn galwad ffôn ddi - enw.

9. Mae nifer y diwaith yng Nghymru wedi gostwng unwaith eto. Ym mis Medi roedd chwe deg un o filoedd o bobl yn ddi - waith ac yn hawlio budd - dal, - pump y cant yn is na'r cyfanswm y mis diwetha'.

10. Ac yn America heddiw, cafodd un o'r ffrogiau enwocaf yn y byd - honno wisgodd Marilyn Monroe i ganu "Pen - blwydd Hapus" i'r Arlywydd Kennedy - ei gwerthu am un filiwn a thri chan mil o ddoleri. Dywedodd y prynwr ei fod yn credu iddo gael bargen.

language tools
dictionary
Help / Cymorth
grammar
A comprehensive print-out grammar guide

links
The best of the rest for learning Welsh online

Âé¶¹Éç Vocab: A Window into Welsh. Have trouble understanding Welsh on the web? Here's the answer.

Sites in Welsh for your kids
Bobinogi
Tweenies Cymraeg
Celtiaid yr Oes Haearn



About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý