Dyma i chi eiriau i'w defnyddio wrth ddisgrifio rhywun.
hyll
ugly
del
pretty (benywaidd/ feminine)
hardd
beautiful
golygus
handsome
tal
tall
byr
short
tew
fat
tenau
thin
ifanc
young
hen
old
Cofiwch fod ansoddair (adjective) yn treiglo'n feddal ar 么l enw (noun) benywaidd. Dan ni'n dweud hogan ddel, cath dew.
Mae treiglad meddal ar 么l yn/'n: Mae hi'n ddel, mae o'n olygus.
Yn Gymraeg, mae'r ansoddair yn dod ar 么l yr enw (noun) fel arfer. Dan ni'n dweud dyn ifanc, merch hardd a.y.b. Ond, mae hen yn wahanol. Mae hen yn dod o flaen yr enw. Dan ni'n dweud hen gi a hen gath. Mae treiglad meddal ar 么l hen.
Dan ni fel arfer yn dweud hen 诺r a hen wraig yn lle hen ddyn a hen ddynes.