Blwyddyn ydy year, ond ar 么l rhifau heblaw 1 (apart from after 1) dyn ni'n dweud blynedd. Edrychwch ar y treigladau sy'n dilyn (follow) y rhifau.
Dysgwch:
un
flwyddyn
dwy
flynedd
tair
blynedd
pedair
blynedd
pum
mlynedd
chwe
blynedd
saith
mlynedd
wyth
mlynedd
naw
mlynedd
deg
mlynedd
ugain
mlynedd
hanner can
mlynedd
can
mlynedd
dwy + treiglad meddal
tair, pedair, chwe + dim treiglad
pum, saith, wyth, naw, deg + treiglad trwynol
Ar 么l deg, dyn ni'n gallu defnyddio'r lluosog (plural)
un deg saith mlynedd / un deg saith o flynyddoedd tri deg chwe blynedd / tri deg chwech o flynyddoedd
ERS Ers can be translated as since
Ers faint dych chi'n byw yng Nghaerdydd? Since when are you living in Cardiff? Dw i'n byw yng Nghaerdydd ers tair blynedd
Ers faint rwyt ti yn y Brownis? Since when are you in the Brownies? Ers dwy flynedd
AM Am can be translated as for
Ro'n i'n gweithio ym Mhort Talbot am bum mlynedd I worked in Port Talbot for five years
Astudiais i yn y Brifysgol am dair blynedd I studied at the University for three years
Roedd ci gyda fi am ddeg mlynedd I had a dog for ten years
Mae treiglad meddal ar 么l am. Does dim treiglad ar 么l ers.
Dyn ni'n defnyddio ers pan mae'r weithred yn mynd ymlaen ac am pan mae drosodd. We use ers when the action referred to is ongoing, and am when it is over.