Adolygiad Blynyddol Cymru: Y ffigurau uchaf mewn deng mlynedd o ran cynulleidfa teledu yng nghymru ond ceir pryderon o hyd am y portread o fywyd yng nghymru
Gwelwyd y ffigurau uchaf mewn degawd o ran cynulleidfa ar 麻豆社 One Wales a 麻豆社 Two Wales yn 2013/14, yn 么l Adroddiad Blynyddol y 麻豆社 ac adolygiad blynyddol Cyngor Cynulleidfa Cymru o'r 麻豆社 a gyhoeddwyd heddiw. 听 听 听
Gwelwyd hefyd y niferoedd uchaf erioed yn gwylio 麻豆社 Wales Today, y bwletin newyddion fin nos, gyda 305,000 o bobl yn ei wylio ar gyfartaledd.
Croesawodd Cyngor Cynulleidfa Cymru, corff cynghori Ymddiriedolaeth y 麻豆社, lwyddiannau'r 麻豆社 yng Nghymru a'r uchafbwyntiau eleni o ran rhaglenni.听 Ymhlith y rhain roedd Y Gwyll/Hinterland, a ddarlledwyd mewn tri fersiwn mewn partneriaeth 芒'r S4C 鈥� Cymraeg, dwyieithog a Saesneg 鈥� am y tro cyntaf i gynulleidfaoedd yng Nghymru ac yna ledled y DU.
Cyrhaeddodd tymor rhaglenni Live Longer Wales ar y teledu, radio ac ar-lein bron 40 y cant o oedolion yng Nghymru. 听
Parhaodd 麻豆社 Wales i gyfrannu'n gadarn at raglenni i gynulleidfaoedd ledled y DU, gyda bron 12 miliwn o bobl, ar gyfartaledd, yn gwylio'r gyfres ddiweddaraf o Sherlock. Mae hyn yn golygu mai hon yw'r gyfres ddrama a gafodd y nifer fwyaf o wylwyr ar y 麻豆社 mewn dros ddegawd yn ogystal 芒'r ffaith mai hon yw'r ddrama fwyaf poblogaidd erioed ar 麻豆社 iPlayer.听
Cafodd y bennod arbennig o Doctor Who a oedd yn dathlu hanner canmlwyddiant y gyfres, a gynhyrchwyd hefyd yng Nghaerdydd, ei darlledu ar yr un pryd i 98 o wledydd ledled y byd. 听听
Parhaodd 麻豆社 Radio Wales i berfformio'n gadarn gyda 468,000 o bobl, ar gyfartaledd, yn gwrando bob wythnos. 听Cynyddodd 麻豆社 Radio Cymru gyrhaeddiad ei gynulleidfa 13 y cant, lansiodd ymgynghoriad cyhoeddus helaeth ymhlith ei wrandawyr ac yn dilyn hynny ail-lansiodd ei amserlen yn ystod yr wythnos.
Croesawodd y Cyngor Cynulleidfa lansiad 麻豆社 One Wales HD ynghyd 芒'r gwelliannau diweddar i ddarpariaeth DAB o 麻豆社 Radio Wales a Radio Cymru, a gynyddodd o 41 y cant i 61 y cant. 听
Mae'r Cyngor, a gynhaliodd 18 o ddigwyddiadau eleni i gasglu barn cynulleidfaoedd, wedi pwysleisio'r ffaith bod angen gwella darpariaeth DAB ac FM o Radio Wales a mynegodd bryder nad yw newyddion rhwydwaith 麻豆社 ledled y DU yn adlewyrchu'r DU ar 么l datganoli o hyd. Er i'r Cyngor ddod i'r casgliad bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, dywedodd fod cymariaethau annigonol yn cael eu gwneud o hyd o ran swyddi cyfreithiol ac o ran polisi yng ngwledydd gwahanol y DU. Pwysleisiodd y Cyngor hefyd bryderon y gynulleidfa am y gostyngiad parhaus yn nifer y rhaglenni teledu Saesneg nad ydynt yn ymwneud 芒'r newyddion a gynhyrchir gan 麻豆社 Wales i gynulleidfaoedd yng Nghymru, sydd wedi gostwng 21 y cant ers 2007/8.
Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cymru y 麻豆社:
"Gyda'r ffigurau uchaf mewn deng mlynedd o ran cynulleidfa, mae'n amlwg bod 麻豆社 Cymru Wales yn darparu ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru ac mae'r rhaglenni eithriadol a welwyd dros y flwyddyn ddiwethaf yn brawf o hynny. 听听Yn ogystal 芒 hyn, mae'r dram芒u a wnaed yng Nghymru ar gyfer y DU gyfan yn mynd o nerth i nerth ac mae Radio Cymru wedi denu mwy o wrandawyr.听
"Fodd bynnag, mae'n peri pryder bod y Cyngor Cynulleidfa wedi nodi materion parhaus o ran y ffordd y mae rhwydwaith y 麻豆社 yn adlewyrchu Cymru, a'r ffaith bod prinder rhaglenni teledu Saesneg, yn arbennig comedi a drama, yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru i Gymru.听 Bydd yr Ymddiriedolaeth yn parhau i weithio gyda'r 麻豆社 i fynd i'r afael 芒'r pryderon hyn yn ystod y flwyddyn i ddod".
Nodiadau i Olygyddion听
1. Mae Adolygiad Blynyddol Cyngor Cynulleidfa Cymru ar gyfer 2013/14 ar gael yn
2. Mae Adolygiad Blynyddol a Chyfrifon y 麻豆社 ar gyfer 2013/14 ar gael yn
Search the site
Can't find what you need? Search here