Âé¶¹Éç

Beichogi hÅ·n

Dynes feichiog yn dal ei bol

27 Hydref 2010

Gyda mwy o ferched nag erioed yn dewis cael plentyn yn hwyrach mewn bywyd 1, mae'r nifer o rieni hÅ·n yng Nghymru wedi cynyddu dros y deg mlynedd diwethaf.

Ceir dadleuon o blaid ac yn erbyn beichiogi'n hŷn, ond erbyn hyn mae'n ffaith fod llawer o ddynion a merched yn dewis peidio cael y babi cyntaf tan yn hwyrach, ar ôl sefydlu gyrfa neu berthynas hirdymor.

Yn anffodus, mae'r posibiliad o gymhlethdodau i iechyd y fam a'r babi yn uwch wrth feichiogi'n hwyrach. Wrth i ffrwythlondeb i ddynion a merched newid yn sylweddol ar ôl 35 mlwydd oed, sy'n gallu ei gwneud hi'n anoddach i feichiogi yn y lle cyntaf, daw newidiadau eraill yn nhermau ansawdd y deunydd genetig o fewn y wyau a'r sberm.

Y cyngor erbyn hyn yw i gael ychydig o brofion er mwyn cael gwell syniad o iechyd y babi, rhai sy'n ychwanegol i'r sganiau arferol a geir yn ystod beichiogrwydd.

Un cyffredin sy'n cael ei gynnig i ferched dros 35, sydd rhwng wythnos 16-20 o'r beichiogrwydd, yw'r prawf amnio. Mae hwn yn edrych am broblemau ar lefel y cromosomau e.e. Syndrom Down, neu rhai mwy anghyffredin fel Syndrom Edward: mae'r risg o gael babi gyda Syndrom Down, anabledd dysgu a phroblemau corfforol eraill, yn codi o fod yn 1 mewn 1500 os yn 20 i fod yn 1 mewn 110 pan yn 452.

Nid hwn yw'r unig brawf sydd ar gael - gellir cael y prawf Nuchal rhwng wythnos 11-13 - ond mae'r lefel o sicrwydd i'r prawf amnio yn uwch am ei fod yn brawf sy'n golygu cymryd sampl o'r babi tra yn y groth. Yr anfantais i hyn yw y gall codi'r lefel o risg o golli'r babi.

Yn nhermau iechyd y fam hÅ·n, mae yna bosibiliad o gael pwysau gwaed uwch neu ddiabetes yn ystod y cyfnod beichiog. Mae hefyd yn fwy tebygol fod angen help neu ymyriad meddygol pan ddaw hi'n amser geni, unai trwy enedigaeth Gesaraidd neu gael help i ddechrau'r broses geni.

Ond rhaid cofio, er bod y posibiliad o'r cymhlethdodau yma'n uwch, mae'r rhan fwyaf o ferched hŷn sy'n feichiog yn mynd ymlaen i gael plant iach, ac i fwynhau bod yn famau gymaint â phobl iau.

Ffeithiau sydyn

  • Mae nifer y bobl sy'n dewis cael plant yn hÅ·n wedi cynyddu.
  • Er nad yw'n anochel o bell, mae'n fwy tebygol fod cymhlethdodau gyda'r beichigrwydd a'r geni os ydych yn hÅ·n.
  • Cynigir sawl prawf ychwanegol i famau hÅ·n, gan gynnwys y prawf amnio a'r prawf Nuchal.

Cysylltiadau

Mothers 35 Plus

Gwefan gefnogol i bobl sy'n beichiogi'n hÅ·n, gyda gwybodaeth ddefnyddiol am y profion sydd ar gael.

ARC

Cyngor a chymorth i ddarpar rieni wrth iddynt benderfynu ar ba brofion i'w cymryd pan yn feichiog.
0207 631 0285

Infertility Network UK

Help i bobl sy'n cael problemau cael plant.

More to Life

Elusen gefnogol i bobl sydd methu cael plant, am ba bynnag reswm.

Babycentre

Gwefan gynhwysfawr a chlir am fod yn feichiog, gan gynnwys problemau beichiogi pan yn hÅ·n.

Patient.co.uk

Ffynhonnell o wybodaeth feddygol safonol am unrhyw fater i wneud ag iechyd, un sy'n cael ei ddefnyddio a'i ddatblygu gan ddoctoriaid a nyrsys.

1 Ffynhonnell:
2 Ffynhonnell:


Llyfrnodi gyda:

Beichogi hÅ·n

Dyma wybodaeth am y dadleuon o blaid ac yn erbyn y duedd gynyddol i ferched gael plant yn hwyrach yn eu bywydau a'r profion sydd ar gael i ferched beichiog hÅ·n. This is a page in Welsh about the pros and cons of being an older mother and the tests available to women who become pregnant later in life. Click on Vocab for help with Welsh.

Crefydd

Croes

Straeon

Erthyglau am wahanol agweddau o fywyd crefyddol Cymru.

Âé¶¹Éç iD

Llywio drwy’r Âé¶¹Éç

Âé¶¹Éç © 2014 Nid yw'r Âé¶¹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.