
10 Awst 2010
Clefyd coronaidd y galon yw un o'r problemau iechyd mwyaf yng Nghymru. Mae'n lladd o leiaf 6,000 o bobl y flwyddyn 1, os nad mwy yn 么l rhai. Mae rhywun yn marw o drawiad ar y galon bob chwe munud ym Mhrydain.
Mae'r clefyd yma'n datblygu wrth i'r prif rydwel茂au coronaidd gulhau. Rhain sy'n cyflenwi gwaed i'r galon, ac felly'n cyflenwi ocsigen: gan mai cyhyr yw'r galon, mae angen ocsigen i weithio'n iawn. Os nad yw'r galon yn cael ocsigen, gall cyflwr o'r enw angina ddatblygu, gan achosi poen yn y frest, arwydd clir o glefyd y galon. Os yw'r rhydwel茂au'n culhau yn gyfan-gwbl, oherwydd clot gwaed er enghraifft, gall achosi trawiad ar y galon 2.
Ond pam mae hyn yn digwydd? Fel arfer, mae'r rhydwel茂au'n culhau wrth i fraster gronni ynddynt, gan atal llif y gwaed a chreu cyflwr o'r enw atherosglerosis. Mae sawl ffactor yn gallu cyfrannu at y broses yma, ond mae hefyd yn gyfuniad o lwc a ffordd o fyw, fel gyda sawl cyflwr iechyd arall.
Daw'r lwc, neu anlwc, o'ch etifeddiaeth enetig: os oes perthynas agos wedi cael trawiad ar y galon cyn 55 mlwydd oed, mae'n syniad da i gadw golwg agosach ar iechyd eich calon. Ond eich ffordd o fyw - beth rydych yn ei fwyta, faint o ymarfer corff a faint o straen sy'n cael ei roi ar y galon yn ddyddiol trwy ysmygu neu yfed - yw'r ffactor bwysig arall.
Yn amlwg, mae rhai o'r dewisiadau yma o fewn ein rheolaeth, ond mae'r ffeithiau hefyd yn dangos yn glir fod cysylltiad rhwng clefyd y galon a ffactorau amgylcheddol fel tlodi, addysg a dosbarth cymdeithasol. Mae'r ardaloedd ble mae clefyd y galon ar ei waethaf ymysg y cymunedau mwyaf tlawd yng Nghymru 3. Mae anghyfartaledd iechyd yn ffaith yn ein cymunedau: os ydych chi'n cael eich geni mewn tlodi mae eich disgwyliad oes yn mynd i fod yn llai nag os ydych yn cael eich geni mewn ardal gyfoethog. Mae'r effaith ar ystadegau clefyd y galon yr un peth, gyda mwy yn cael eu heffeithio mewn ardaloedd difreintiedig.
Ond mae 'na bethau syml fedrwch chi ei wneud i edrych ar 么l iechyd eich calon, yn 么l meddygon. Mae cadw golwg ar eich diet yn syniad da i ddechrau, gan sicrhau eich bod yn bwyta mwy o lysiau a ffrwythau, a llai o fraster sy'n creu colesterol sy'n culhau'r rhydwel茂au - felly llai o gig coch, menyn, llaeth llawn, caws a sglodion.
Mae pawb yn cytuno erbyn hyn fod ysmygu yn wael i'ch iechyd, felly gwell peidio. Cynghorir yfed yn gymedrol hefyd: 3-4 uned o alcohol y dydd i ddynion, 2-3 i ferched, dim mwy. Mae'n bwysig gwneud ychydig o ymarfer corff, sef hanner awr o gael allan o wynt tua phum gwaith yr wythnos os yn bosib: gall hyn fod yn feicio i'r gwaith, nofio neu chwaraeon, rhyw weithgaredd rydych yn ei fwynhau. Yn olaf, mae doctoriaid hefyd yn awgrymu ei bod hi'n syniad dysgu sut i ymlacio, gwneud rhywbeth i anghofio straen y dydd, boed hynny'n fynd am dro neu gael bath hir.
Ffeithiau sydyn
- Er gall eich genynnau olygu eich bod yn datblygu clefyd y galon, mae effeithiau amgylcheddol a dewisiadau personol yn gallu cyfrannu at eich tebygolrwydd o'i gael neu beidio.
- Ymysg y pethau gallwch wneud i leihau'r tebygolrwydd o'i gael yw atal rhag ysmygu, yfed alcohol yn gymedrol a bwyta'n iach gyda amrywiaeth o lysiau a ffrwythau a ddim gormod o fraster dirlawn ('saturated fats') fel sydd mewn cig coch, menyn, sglodion a caws.
- Mae tystiolaeth bod gwneud rhyw fath o ymarfer corff i'ch cael allan o wynt am hanner awr, bum gwaith yr wythnos, a dysgu sut i ymlacio, yn helpu i osgoi clefyd y galon.
Cysylltiadau
Galw Iechyd Cymru
Gwybodaeth fanwl a chlir am y cyflwr, y symptomau, diagnosis a thriniaeth.
0845 46 47
British Heart Foundation Cymru
Elusen sy'n canolbwyntio ar sut i leihau'r achosion o glefyd y galon yng Nghymru, trwy gyfuniad o ymgyrchoedd iechyd, lob茂o am wasanaethau a datblygu ymchwil perthnasol.
0300 330 3311
Dim Smygu Cymru
Yr un peth gallwch chi ei wneud i wella iechyd y galon, a'ch iechyd yn gyffredinol, yw stopio ysmygu. Mae help ar gael o'r wefan a'r llinell gymorth yma.
0800 085 2219
Patient.co.uk
Ffynhonnell o wybodaeth feddygol safonol am unrhyw fater i wneud ag iechyd, un sy'n cael ei ddefnyddio a'i ddatblygu gan ddoctoriaid a nyrsys.
1 Ffynhonnell:
2 Ffynhonnell:
3 Ffynhonnell:
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Clefyd y galon
Beth yw'r ffactorau sy'n achosi clefyd y galon a beth allwch chi ei wneud i wneud eich gorau i osgoi problemau gyda'ch calon. This is a page in Welsh about the causes of coronary disease and how you can reduce your chances of developing heart problems. Click on Vocab for help with the Welsh.

