麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003
Detholwyr
Enillwyr
Arddangosfa
Dewis y Bobl Comisiwn Madog
Cynllun preswyl Maldwyn
Gwobr Ifor Davies
Iorwerth Peate
Ackroyd Harvey
Derek Williams



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

CREU SYNNWYR A DATHLU
Cynllun preswyl Maldwyn

Ym Maldwyn eleni penderfynodd yr Is-bwyllgor Celf a Chrefft ddathlu bywyd a gwaith yr hanesydd a鈥檙 llenor o Lanbrynmair, Iorwerth Peate. Mewn partneriaeth 芒 Chywaith Cymru ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, dyma benodi dau artist preswyl i weithio yn y gymuned. Y syniad o gasglu arteffactau a chreu arddangosfeydd oedd y man cychwyn 鈥楥reu Synnwyr鈥.

Carlos Pinatti a Christine Mills Yn briodol, aeth yr artistiaid Christine Mills sy鈥檔 frodor o Ddyffryn Banw, a Carlos Pinatti, sy鈥檔 dod o鈥檙 Ariannin, i chwilio am ysbrydoliaeth yn archifau Amgueddfa Werin Cymru 鈥 lle gwell o ystyried mai Iorwerth Peate oedd Ceidwad cyntaf y sefydliad arloesol hwn. Yno daethpwyd o hyd i lyfrau nodau clust o eiddo Telynores Maldwyn, Nansi Richards ynghyd 芒 thagiau defaid a llythrennau pitsho.

Wedi twrio drwy鈥檙 casgliadau yn Sain Ffagan, dyma鈥檙 ddau yn sefydlu stiwdio yn Llanerfyl a datblygu eu syniadau ymhellach. Cysylltwyd 芒 thrigolion yr ardal a holwyd am wybodaeth ynglyn 芒 marciau, llythrennau neu ddarluniau diddorol ar adeiladau neu furiau lleol. Tra oedd Christine Mills yn awyddus i gofnodi鈥檙 newidiadau sy鈥檔 digwydd i gefn gwlad, syfrdanwyd Carlos Pinatti gan l锚n gwerin a thraddodiad llafar y fro.

nodau clust defaid A hwythau yng nghanol byd amaeth, doedd dim modd osgoi ffermio defaid chwaith.
Dyma鈥檙 ddau yn ymddiddori fwyfwy yn y posibiliadau o greu celfyddyd drwy ddefnyddio delweddau nodau clust defaid a llythrennau pitsho. Mae鈥檙 artistiaid yn cyfeirio atynt fel 鈥済raffiti鈥檙 caeau鈥.

Yn 么l Christine Mills a Carlos Pinatti roedd y sgyrsiau a gafwyd gyda thrigolion y fro cyn bwysiced 芒鈥檙 arteffactau. Roedd cyfranogiad y gymuned leol yn allweddol i lwyddiant y preswyliad.

Carlos, Christine a'r plant Er mwyn lledaenu鈥檙 gweithgaredd, dyma ymweld ag ysgolion lleol a mynychu Rali鈥檙 Ffermwyr Ifainc. Gwahoddwyd beirdd lleol i鈥檙 stiwdio ac ymwelwyd 芒 Gwasg Gregynog. O ganlyniad bydd y darluniau, gwaith tecstilau, ffotograffau, fideo a鈥檙 llyfr arbennig a gr毛wyd gan y ddau yn gofnod parhaol o鈥檙 bwrlwm creadigol a symbylwyd ym Maldwyn pan ymwelodd y Brifwyl 芒鈥檙 fro yn 2003.

Artistiaid
A - H | I - O | P - Y

Rhestr yr enillwyr

Dewis y Bobl

Detholwyr

ysgoloriaeth pensaerniaeth
Laura Clark Laura Clark
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaern茂aeth
(Rhennir y wobr)

Rwyf newydd gwblhau fy addysg bensaern茂ol yn Ysgol Bensaern茂aeth Mackintosh yn Glasgow. Pensaern茂aeth a chelf fu prif ddiddordebau fy mywyd erioed.
Lucie Phillips Lucie Phillips
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaern茂aeth
(Rhennir y wobr)

Mi wnes i ddechrau cymryd diddordeb mewn pensaern茂aeth pan oeddwn i'n bedair ar ddeg oed.
y fedal aur - pensaerniaeth
Penseiri Nicholas Hare Penseiri Nicholas Hare
Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaern茂aeth - Gwobr Goffa Alwyn Lloyd am Rhif 1. Sgw芒r Callaghan, Caerdydd.
Y prosiect hwn yw'r datblygiad sylweddol cyntaf ar y safle ac y mae'n ganolfan i swyddfeydd yn bennaf ond mae posibiliadau i'w ddefnyddio i ddibenion adwerthu.
Plac Pensaerniaeth
Pensaern茂aeth Davies Sutton Pensaern茂aeth Davies Sutton
Enillydd y Plac Teilyngdod mewn Pensaern茂aeth am Ty Teilo, Llandw, Bro Morgannwg.
Roedd y cleient, Esgobaeth Llandaf, yn awyddus i Davies Sutton Architecture ddatblygu coetsiws fel man i encilio ynddo.
Crefft a Dylunio
Mari Thomas Mari Thomas
Enillydd Y Fedal Aur Crefft a Dylunio
Cyfres Haenau

Yr allwedd i'r casgliad hwn yw'r syniad o gyflwyno ffurfiau a siapiau clir a syml.
Celfyddyd Gain
Tim Davies Tim Davies
Enillydd Y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain
Er nad wyf yn dymuno bod yn gyfarwyddol am fy ngwaith, oherwydd bod pob un sy'n edrych arno yn dod 芒'u dealltwriaeth a'u dehongliad eu hunain i bob darn, bydd y nodiadau hyn, gobeithio, yn egluro fy nghymhellion a'm cyfeiriadau wrth ei gyflawni.
artist ifanc
Richard Bevan Richard Bevan
Enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc
Mae fy ngwaith yn ymwneud 芒'm bywyd ac olion corfforol bywydau fy mherthnasau a'm ffrindiau.


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy