Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Olympaidd

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 18 Awst 2008
Thomas yn cipio aur ar y trac seiclo

Geraint Thomas yw'r trydydd o Gymru i ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd yn Beijing ar ôl mwynhau buddugoliaeth wych gyda thîm Prydain yn y ras gwrso.

Geraint Thomas

Sefydlodd y tîm, oedd hefyd yn cynnwys Bradley Wiggins, Ed Clancy a Paul Manning, record byd newydd o dri munud 53.314 eiliad, gan dorri eu record eu hunain o bron i ddwy eiliad yn Beijing.

Profodd y pedwar yn llawer rhy gryf i'w gwrthwynebwyr yn y ras derfynol, Denmarc, wrth ennill o 6.7eiliad dros y 4000m.

Dyma'r drydedd fedal aur i Gymru ei hennill, wrth i Thomas efelychu camp ei gyd feiciwr Nicole Cooke a'r rhwyfwr Tom James.

"Mae hyn yn llwyddiant anhygoel gan dîm anhygoel," dywedodd Thomas, sy'n 22 ac yn hanu o Gaerdydd.

"Mae hwn yn ddiwrnod arbennig iawn i mi, mae e'n wych. Mi fydd y record yma yn sefyll am amser hir."

Mae'r fuddugoliaeth yn codi Prydain i fyny i'r trydydd safle yn nhabl y medalau, gyda chyfanswm o 12 medal aur, saith arian ac wyth efydd.


chwaraeon



About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý