Chwaraeon±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Abertawe Caerdydd Casnewydd Wrecsam Uwchgynghrair Cymru ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol Rhyngwladol Rygbi Rhyngwladol Rhanbarthol Athletau Beicio Bocsio Criced Cyffredinol Golff Moduro Olympaidd Rasio Ceffylau Rygbi XIII Snwcer Tenis Canlyniadau
Roedd rhagor o lwyddiant i'r nofiwr Paralympaidd David Roberts yn y gystadleuaeth Rhyngwladol Agored ym Manceinion.
Ac yntau'n dathlu ei ben-blwydd yn 29 oed roedd Roberts yn fuddugol yn yr S7 50m a'r 100m dull rhydd.
Yn y ras 50m fe orffennodd y Cymro mewn amser o 28.56 eiliad gyda Matt Walker yn gorffen yn ail a Roberts fu'n arwain o'r dechrau yn y ras 100m.
Ac fe sefydlodd Ellie Simmonds, y ferch sy'n ymarfer yn Abertawe, record byd newydd wrth ennill y S6 100m dull rhydd.