Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Olympaidd

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 18 Medi 2008
Morgan yn llongyfarch y Cymry yn Beijing

Mae Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan wedi llongyfarch y Cymry oedd yn rhan o dîm llwyddiannus Prydain yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing.

Y seremoni gloi yn Beijing

Gyda Phrydain yn gorffen yn ail yn nhabl y medalau, sicrhaodd y Cymry 14 aur, 3 medal arian ac un efydd.

Cipiodd y nofiwr Dave Roberts pedair medal aur, gan ddod yn gyfartal a record Tanni Grey-Thompson o 11 medal aur Paralympaidd.

"Gall Gymru fod yn falch o'n campwyr Paralympaidd sydd wedi cynnal yr ysbryd gwych sydd wedi bodoli ym myd campau Cymru trwy gydol y flwyddyn," meddai Rhodri Morgan.

"Daeth tyrfa enfawr i Fae Caerdydd i groesawu'n campwyr Olympaidd adref o Beijing, a hoffwn weld yr un croeso anhygoel i'n Paralympwyr hefyd.

"Fel gyda'r gemau Olympaidd, mae'r cystadleuwyr o Gymru wedi arwain Tîm GB yn eu rhuthr am aur, a gyda'i gilydd maen nhw wedi codi proffil y mudiad Paralympaidd yng ngolwg y cyhoedd.

"Maen nhw'n wir haeddu cael eu croesawu adref fel arwyr," ychwanegodd.

Bydd y cystadleuwyr yn cael eu croesawu'n ôl yn swyddogol y tu allan i adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Llun nesaf.


chwaraeon



About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý