Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Olympaidd

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 13 Awst 2008
Beijing: Dydd 5

Fe fethodd Nicole Cook ac ychwanegu at y fedal aur enillodd yn ras lon i ferched pan orffennodd yn y 15fed safle yn y ras yn erbyn y cloc ddydd Mercher.

Nicole Cook

Ond roedd yna lwyddiant i dîm beicio Prydain wrth i Emma Pooley ennill y fedal arian, 24 eiliad y tu ôl i'r Americanes Kristin Armstrong.

Rhodri Llywelyn yn adrodd ar ddiwrnod llwyddiannus arall i dîm beicio Prydain

Roedd yna siom i'r Gymraes Jemma Lowe ar ôl iddi fethu o drwch blewyn i gyrraedd rownd derfynol y ras 200m yn null pili pala yn y Ciwb Dŵr yn Beijing.

Er iddi orffen yn drydydd yn y rownd gynderfynol gyntaf mewn amser o 2:07.87 fe fethodd Lowe a chyrraedd y nod a hynny o 0.14 eiliad yn unig.

Yn y cyfamser, mae Michael Phelps wedi torri'r record am ennill yn nifer fwyaf o fedalau aur yn y Gemau Olympaidd drwy hawlio ei 10fed a'i unfed fuddugoliaeth a'r ddeg ddydd Mercher.

Andrew Weekes yn gweld hanes yn cael ei greu yn y Ciwb Dŵr

Enillodd Phelps ei bedwerydd a'i bumed medal aur yn Beijing yn y 200m dull pili-pala ac yn y ras gyfnewid 200m dull rhydd.

Mae'r Americanwr o fewn tair buddugoliaeth i guro record Mark Spitz enillodd saith fedal aur yng Ngemau Olympaidd Munich yn 1972.

Hefyd ar y dŵr, mae'r Cymro Tom James ar drywydd fedal aur yn y rhwyfo yn Beijing ar ôl i bedwarawd heb lywiwr Prydain sicrhau eu lle yn y rownd derfynol.

Mae James, Andy Hodge, Steve Williams a Pete Reed ymhlith y ffefrynnau i ennill y ras fydd yn cael ei gynnal fore Sadwrn ar ôl curo Awstralia a Ffrainc yn y rownd gynderfynol.

Roedd rhagor o siom i Andy Murray yn y tenis wrth iddo golli gyda'i frawd, Jamie, yn ail rownd y dyblau i Michael Llodra and Arnaud Clement o Ffrianc.

Collodd yr Albanwr yn rownd gynta y senglau ddydd Llun.


chwaraeon



About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý