Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Olympaidd

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 17 Awst 2008
Beijing: diwrnod 9
17 Awst 2008
Paula Radcliffe yn cael saib cyn ail-ymuno yn y ras yn Beijing

Mae Cymru wedi llwyddo i ennill y nifer fwyaf o fedalau ers Gemau Olympaidd Munich yn 1972 ar ôl i Tom Lucy helpu tîm wyth gyda llywiwr Prydain i'r fedal arian.

Ac mae gobaith gwirioneddol y bydd y beiciwr trac Geraint Thomas yn dilyn esiampl Nicole Cooke a Tom James drwy ennill aur yn rownd derfynol y ras gwrso ddydd Llun.

Fe dorrodd Thomas a gweddill tîm Prydain record byd eu hunain wrth gyrraedd y rownd derfynol.

Mae'r Cymro yn sicr o ddychwelyd gyda medal arian o leiaf cyn herio Denmarc yn y rownd derfynol.

Bu'n rhaid i'r nofiwr David Davies fodloni gyda'r chweched safle yn rownd derfynol y ras 1500m.

Syfrdanwyd y ffefryn Grant Hackett wrth i Oussama Melloui ennill y fedal aur i Tiwnisia.

Yn y ras gyfnewid 4x100m i ferched fe helpodd Jemma Lowe y tîm i dorri record Prydain wrth iddyn nhw orffen yn bedwerydd yn y rownd derfynol.

Roedd hi'n ddiwrnod nodedig i'r beiciwr Rebecca Romero wrth iddi gipio 11eg medal aur Prydain yn y ras gwrso unigol.

Romero yw'r ail ddynes yn hanes y Gemau Olympaidd i ennill medal aur mewn dwy gamp gwbwl gwahanol ar ôl iddi ennill aur am rwyfo yn Athen yn 2004.

Yn y Nyth roedd 'na lwyddiant pellach i wibwyr Jamaica yn dilyn llwyddiant Usain Bolt yn y ras 100m ddydd Sadwrn.

Jamaica hawliodd y gamp lawn yn y ras 100m i ferched gyda Shelly-Ann Fraser yn ennill y fedal aur gyda Sherone Simpson a Kerron Stewart yn gyfartal ail.

Ac yn ôl y disgwyl Ethiopia oedd yn dathlu ar ddiwedd y ras 10,000m i ddynion wrth i Kenenisa Bekele guro ai gyd wladwr Sileshi Sihine i hawlio'r fedal aur.

Ac fe ychwanegodd Raphael Nadal y fedal aur Olympaidd i'w gasgliad o dlysau ar ôl ennill y gystadleuaeth tenis.


chwaraeon



About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý