|
Yr oedd Bangor wedi bod ar y blaen ddwywaith yn erbyn Port Talbot ar Ffordd Farrar drwy Alan Bull a Darren Moss. Ond dwywaith fe darodd yr ymwelwyr yn 么l gyda Lee Surman yn unioni g么l Bull cyn yr egwyl. Cafodd Nicky Ward ei yrru o'r maes yn yr ail hanner i'r t卯m cartref cyn y sgoriodd Lloyd Grist g么l gyfartal i dim Mark Jones yn y munudau olaf. 0nd ni lwyddodd y Seintiau Newydd i fanteisio fodd bynnag yn erbyn Castell-nedd ar y Gnoll. Roedd Chris Sharp wedi rhoi'r Seintiau ar y blaen wedi 40 munud cyn i ddwy g么l gan Lee Trundle, gan gynnwys cic o'r smotyn, roi'r t卯m cartref ar y blaen. Ond fe achubodd Scott Ruscoe bwynt i'r ymwelwyr pan sgoriodd gyda dau funud o'r g锚m yn weddill. Mae'r Seintiau yn parhau triphwynt y tu 么l i Fangor ac wedi chwarae un g锚m yn llai na'r Dinasyddion. Ar noson brysur yn yr Uwchgynghrair roedd Llanelli yn fuddugol o 2-1 ym Mhrestatyn. Roedd Llanelli ar y blaen wedi 10 munud drwy g么l Chris Venables cyn i Ross Stephens unioni'r sg么r. Ond fe sgoriodd Rhys Griffiths ei ugeinfed g么l o'r tymor yn ystod yr ail hanner i sicrhau'r fuddugoliaeth i Lanelli. Yng nghyngres y gemau ail-gyfle roedd Aberystwyth yn fuddugol o 1-0 yng Nghaerfyrddin gyda Lewis Codling yn rhwydo'r unig gol. Ac roedd g么l gan Sam Bailey yn ddigon i'r Drenewydd drechu Airbus ar Barc Latham. Yn y g锚m a chwaraewyr bnawn Sul, trechodd y Bala Hwlffordd o 3-2, diolch i ddwy g么l hwyr gan Mike Hayes. Chris Mason sgoriodd g么l gyntaf y Bala, gyda Jack Christopher yn sgorio dwy g么l Hwlffordd.
 |