Mae ras Grand National Cymru wedi cael ei ohirio oherwydd bod y cwrs yng Nghas-gwent wedi ei orchuddio gan eira.
Roedd swyddogion y cwrs wedi ceisio amddiffyn y cwrs o'r tywydd oer drwy ei gadw o dan orchudd, ond mae 10 centimetr o eira bellach yn gorwedd ar hwnnw.
A chyda rhagor o dywydd rhewllyd yn debygol dros y dyddiau nesaf, penderfynwyd na fydd cynnal y National na'r un ras arall ddydd Llun.
Y gobaith yw ail-drefnu'r rhaglen ar gyfer ddydd Sadwrn, 8 Ionawr.