麻豆社


Explore the 麻豆社

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
麻豆社 Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


John Griffith Twr Pisa a chiosg yng Nghymru

A chynlluniau Cymro i sythu'r ddau!

19 Rhagfyr 2001
gan Ioan Roberts
Cyhoeddwyd yr wythnos yma fod arbenigwyr wedi llwyddo i wneud rhwybeth sydd wedi bod yn herio dynoliaeth ers canrifoedd.

Dan arweiniad yr Athro John Burland, peiriannydd sifil o Loegr, llwyddwyd i wneud Twr Pisa yn yr Eidal yn ddiogel, ac unioni digon arno i ofalu na fydd yn disgyn.

Ond pe byddai pobl wedi cymryd sylw o syniadau John arall, fe allai hyn fod wedi digwydd flynyddoedd maith yn 么l...

Siopwr a gwerthwr petrol ym Mhen Llyn oedd John Griffith, Pengroeslon. Dyfeisio oedd ei ddileit mawr mewn bywyd ond oherwydd styfnigrwydd pobl eraill, ychydig o鈥檌 ddyfeisiadau a welodd olau ddydd.

Mae gen i gof iddo esbonio i mi, gyda phwt o bensel ar gongl papur newydd ar gownter siop oedd yn llawn o ddarpar gwsmeriaid, ei gynllun ar gyfer 鈥�perpetual motion machine鈥�.

Adeiladu awyren

Y cynllun a ddaeth agosaf at weld golau ddydd oedd awyren a adeiladodd ei frawd ac yntau mewn sgubor ar y tyddyn lle magwyd nhw.

Injan Austin Seven fyddai鈥檔 ei gyrru ond chawn ni byth wybod a fyddai鈥榬 ddyfais wedi codi hediad achos ar 么l misoedd o waith fe ganfuwyd ei bod yn rhy fawr i fynd allan trwy ddrws y sbubor!

Achub rhag rhewi

Does gen i ddim tystiolaeth bod y rhan yna o l锚n gwerin Llyn yn wir. Ond mi ddywedodd wrtha i ei hun fel yr oedd o unwaith wedi achub y rhan hwn o鈥檙 byd rhag rhewi.

Pan ddarllenodd yn y Readers Digest am gynllun i newid lefel y dwr ar y naill ochr i Gamlas Panama, sylweddolodd yn syth, pe bai hynny鈥檔 digwydd y bydden nhw鈥檔 newid cwrs y Gulf Stream, a fyddai鈥檔 ei gyrru chynhessrwydd ymhellach oddi wrth arfordir Cymru.

Byddai hynny'n drychineb i bysgod a phobl. Felly mi sgwennodd lythyr ar faer Dinas Panama yn ei rybuddio am y peryglon.

"Gawsoch chi ateb, John Griffith?" medda fi.
"Naddo," meddai, "ond mae鈥檔 rhaid ei fod o wedi鈥檌 gael o, achos soniwyd dim gair mwy am y cynllun."

Hitler yn galw

Yn ystod y rhyfel mi alwodd Hitler a Mussolini yn ei garej mewn car mawr pen-agored i brynu petrol.

John Griffith ei hun fu鈥檔 troi鈥檙 handlan i lenwi鈥檙 tanc a chafodd y digwyddiad hwnnw ei ail-greu flynyddoedd wedyn gan John Roberts Williams ar y rhaglen Heddiw.

Unioni Twr Pisa

Ond ymgyrch fwyaf John Griffith, un fu鈥檔 obsesiwn ganddo am dalp dda o鈥檌 oes, oedd unioni Twr Pisa.

Ger y ciosg PisiaiddDoedd o ddim yn fodlon datgelu鈥檙 gyfrinach hyd yn oed wrtha i, pam fum yn sgwennu鈥檙 hanes i鈥檙 Cymro ar ddechrau鈥檙 saithdegau.

Y cyfan ddywedodd o oedd bod 芒 wnelo鈥檙 cynllun fwy 芒鈥檙 sylfaeni nag 芒 gweddill y twr.

Yn gyfleus iawn, roedd yna giosg y tu allan i鈥檞 siop, ac roedd hwnnw hefyd yn gogwyddo.

Pe byddai Maer Pisa wedi derbyn ei wahoddiad i ddod draw byddai John wedi esbonio i hwnnw, ond i neb arall, sut y dylid unioni鈥檙 twr, gan ddefnyddio鈥檙 Leaning Tower of Pengroeslon fel model.

Dwi ddim yn credu iddo gael ateb gan hwnnw chwaith.

Ond yr wythnos yma mi gyhoeddwd fod Twr Pisa, oedd ond y dim a dymchwel ddeng mlynedd yn 么l, erbyn hyn 17 modfedd yn unionach ac yn hollol gadarn.

Twr PisaRoedd y broblem y dechreuwyd pendroni yn ei chylch pan welwyd bod y twr yn gogwyddo yn ystod y gwaith adeiladu 800 mlynedd yn 么l wedi ei datrys.

Y rhan fwyaf allweddol o鈥檙 cynllun oedd tyllu gyda 41 o ddriliau ar ongl o 30 gradd o dan un ochr i鈥檙 sylfaeni, a defnyddio pwysau plwm i wthio鈥檙 ochr honno yn ddyfnach i鈥檙 ddaear.

Tybed oedd Maer Pisa, fel un Panama, wedi defnyddio syniadau John Griffith ond heb eu cydnabod?
Wythnosau Blaenorol:

Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant



Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy