麻豆社


Explore the 麻豆社

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
麻豆社 Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sant John Roberts Ar drywydd sant

Sut y daeth cynghorydd o hyd i sant yr anghofiodd y Cymry amdano

25 Hydref 2001
Ar drywydd Sant: sut y daeth Keith O鈥橞rian o hyd i鈥檙 Sant John Roberts - arwr a gafodd ei anghofio

Keith O'BrianY gwr sy鈥檔 bennaf gyfrifol am ddod o hyd i鈥檙 Sant John Roberts a鈥檌 hanes rhyfeddol ydi Keith O鈥橞rian, cadeirydd Is-bwyllgor Gwelliannau鈥檙 Gymuned a sefydlwyd gan Gyngor Cymuned Trrawsfynydd i wella a hyrwyddo鈥檙 pentref.

Mae hefyd yn gadeirydd Traws-newid, cwmni a sefydlwyd yn 1996 i ddatblygu鈥檙 pentref.

Cafodd Keith O鈥橞rian ei eni a鈥檌 fagu yn y Traws ac ar hyn o bryd mae鈥檔 gweithio gyda Chyngor Sir Gwynedd yn Nolgellau fel Swyddog Adnewyddu Tai.

Dywedodd iddo ddod o hyd i John Roberts yn sg卯l y syniad o adeiladu Canolfan Dreftadaeth yn Nhrawsfynydd.

"Roedd yr arddangosfa yn y ganolfan yn mynd i fod yn seiliedig ar Hedd Wyn. Ond y tu hwnt i Gymru dydi Hedd Wyn ddim yn golygu llawer i bobol. Fe fuasai hi鈥檔 anodd cynnal yr arddangosfa drwy ddefnyddio hanes Hedd Wyn yn unig.

"Mae鈥檙 arddangosfa hefyd yn mynd i gynnwys hanes y Rhufeiniaid yn yr ardal a鈥檙 ddau gastell Normanaidd cyfagos. Ond dydi hyn ynddo鈥檌 hun ddim yn ddigon chwaith.

"Roedd angen rhywbeth arall i roi gwerth i鈥檙 arddangosfa. Roedd rhaid chwilio am ryw hanesyn arall, rhywbeth unigryw i鈥檙 pentra鈥�. Felly fe es i ati i chwilio ar y we am rywbeth arall."

Darganfod sant

Ychydig a feddyliodd pan ddechreuodd chwilio fis Chwefror 2001 y byddai鈥檔 darganfod sant nad oedd fawr neb wedi clywed amdano o鈥檙 blaen. Daeth o hyd i enw鈥檙 Sant John Roberts ar wefan y Catholic Encyclopaedia.

Cysylltodd â鈥檙 cynghorydd lleol, Isgoed Williams, yr oedd ganddo ef wybodaeth am y 鈥榤erthyr John Roberts鈥� a phamffled amdano yn cyfeirio at nifer o bethau cyffrous fel ysb茂wyr, y pla du, powdwr gwn a dienyddiad.

"Roeddwn i鈥檔 awyddus iawn i wybod mwy," meddai Keith
Er na chafodd fawr ddim gwybodaeth o archifdy rhanbarth Meirionnydd cafodd ddigon o gliwiau lle y dylid chwilio nesaf ac o ganfod i John Roberts fynychu Ysgol Downside ger Caerfaddon cysylltodd â鈥檙 fan honno.

Anfonodd yr Abad lyfryn gan T.P.Ellis, barnwr a ddaeth i fyw i Ddolgellau wedi iddo ymddeol iddo. Dywedodd hefyd fod mwy o wybodaeth yn Downside ei hun.

Pwysig i'r Catholigion

"Wedi inni gyrraedd fe welsom ni fod parch mawr at John Roberts yma. Roedd hi鈥檔 amlwg felly ei fod yn ffigwr pwysig ymhlith y Catholigion. Mi gawsom ni dipyn o sioc gweld mai Roberts oedd enw un o bedwar ty yr ysgol."

Abad Downside"Roedd hi鈥檔 werth teithio鈥檙 holl ffordd i Downside gan imi gael y cyfle i weld llyfr swmpus ar John Roberts wedi ei ysgrifennu gan Bede Camm, mynach oedd wedi bod yn astudio yma."

Syndod pellach oedd darganfod mai Cymro oedd y llyfrgellydd yma, y Tad Daniel Rees. " Ef ddywedodd fod cerflun o鈥檙 Sant John Roberts wedi鈥檌 osod mewn eglwys ym Mhortiwgal yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Doedd gan John Roberts ddim cysylltiad 芒 Phortiwgal felly mae hyn yn dangos y parch mawr iddo ar gyfandir Ewrop.

Cysylltiad rhyfedd
"A鈥檙 hyn sy鈥檔 rhyfeddach fyth, tra鈥檔 chwilota yn llyfr Bede Camm fe ddes i o hyd i lythyr diddorol. Y dyddiad arno oedd Hydref 4 1924 ac roedd wedi ei anfon i鈥檙 Temparence Hotel, Trawsfynydd, gan Bede Camm.

Roedd o wedi anfon mynach i Drawsfynydd i dynnu llun o鈥檙 eglwys lle cafodd John Roberts ei fedyddio.

Mae鈥檔 rhaid bod y mynach yn aros yn y gwesty yma. Dydi鈥檙 gwesty ddim yn bod heddiw ond dyma lle mae鈥檙 ganolfan dreftadaeth, yr union fan lle rydym yn bwriadu gosod colofn o John Roberts!"

Darganfyddodd Keith O鈥橞rian gofnodion Ffrengig hefyd gan fynaich a fu鈥檔 yn dystion i鈥檞 ddienyddiad. Prawf pellach, meddai, fod tyrfa enfawr wedi gwylio鈥檙 dienyddiad.

Disgwyl ymateb

Mae Keith O鈥橞rian wedi cysylltu 芒鈥檙 eglwys ym Mhortiwgal ac mae鈥檔 disgwyl ymateb ganddynt ar hyn o bryd.

Mae鈥檔 gobeithio y bydd llwybr pererindod Llyn yn cael ei ehangu i gynnwys Meirionnydd ac y bydd economi Trawsfynydd yn elwa鈥檔 sylweddol ar hynny.

Sant John RobertsMae gan Keith O鈥橞rian awgrym pam na fu John Roberts yn fwy adnabyddus ymhlith y Cymry.

"Efallai mai amseriad bywgraffiad Bede Camm sy鈥檔 gyfrifol am y ffaith nad oes neb yn gwybod fawr ddim am John Roberts. Pan ymddangosodd roedd meddwl pobol ar bethau eraill .

Rhaid cofio hefyd mai Pabydd oedd o a bod rhagfarn yn eu herbyn yn y cyfnod. Allwn i ddim credu fod yna berson oedd yn enwog drwy鈥檙 byd yn dod o Drawsfynydd a ninnau鈥檔 gwybod dim amdano.

"Dwi wedi mwynhau鈥檙 holl ymchwilio, mae wedi bod yn ddiddorol iawn. Roedd popeth mor annisgwyl ac mae鈥檔 stori mor ffantastig a鈥檙 hyn sy鈥檔 anhygoel yw鈥檙 holl gysylltiadau wedi iddo farw fel y bys ym Mlaenau Ffestiniog."

 
Wythnosau Blaenorol:


Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant



Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy