麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Hwlffordd
Canol tref Hwlffordd S么n wrth y Byd am Hwlffordd!
Mae 麻豆社 Cymru am glywed popeth am Hwlffordd fel rhan o'i ymgyrch strategaeth gymunedol Yma i Chi yr haf hwn.
Mae'r Gorfforaeth yn rhoi cyfle i bobl leol ddweud eu straeon eu hunain am y dref drwy fis Mehefin a Gorffennaf, gyda rhai yn cael eu clywed ar draws gwasanaethau'r 麻豆社 ar y radio, teledu a'r gwefannau lleol.

Mae 'taflenni stori' arbennig yn cael eu dosbarthu o gwmpas y dref fel y gall unrhyw un sydd 芒 stori i'w hadrodd gael cyfle i wneud hynny.

Mae taflenni stori ar gael o Archifdy'r Sir, Caffi Marchnad Glan yr Afon, Oriel Gelf Andrew Bailey, Canolfan Siopa Glan yr Afon, Llyfrgell Hwlffordd, Swyddfa Cyngor Tref Hwlffordd, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro ac ar-lein - cliciwch yma i lawr lwytho y daflen stori (Dogfen 'Word')

Gall pobl rannu eu straeon hefyd drwy ffonio t卯m Yma i Chi ar 08703 500 700. "Mae'n bwysig i ni adlewyrchu'r hyn sy'n haeddu sylw yn Hwlffordd fel rhan o Yma i Chi a phwy well i adrodd wrthym am y dref ond y bobl sy'n byw yno?" esbonia Cydlynydd Strategaeth Gymunedol 麻豆社 Cymru Alison Quinn. "Ni allwn addo rhoi sylw i bob stori a anfonir ond fe hoffwn wybod am bopeth sy'n digwydd, gyda phwy y dylem fod yn siarad, pa faterion sy'n bwysig, yn ogystal 芒'r hyn sydd wedi digwydd yn hanesyddol i siapio'r dref a'i phobl."

Er mwyn ysbrydoli pobl leol i rannu eu straeon, mae 麻豆社 Radio Wales yn darlledu Diwrnod Archif Hwlffordd ddydd Mawrth, Mehefin 27. Mae'r diwrnod yn cynnwys straeon, lleisiau a safbwyntiau a recordiwyd dros y blynyddoedd gan y 麻豆社 yn Hwlffordd, gydag eitemau yn cael eu darlledu ar amrywiol raglenni drwy'r diwrnod.

Bydd Bws rhyngweithiol 麻豆社 Cymru hefyd yn y dref ddydd Mercher, Mehefin 28. Wedi ei leoli ynghanol y dref o 9am tan 3pm, anodd fydd methu'r bws melyn.

O 9 y bore gall ymwelwyr gael y cyfle i alw mewn am sgwrs gyda Kath o raglen foreol Roy Noble fydd yn fyw ar yr awyr. Bydd hi hefyd yn gwahodd pobl i geisio'i lwc gyda chystadleuaeth Llais Cudd y rhaglen.

Mae'r Bws, sydd yn llawn o'r dechnoleg ddiweddara, hefyd yn cynnig cyfle i gyfrannu i wefannau lleol 麻豆社 Cymru a darganfod mwy am raglenni a phrosiectau'r 麻豆社.

Am fwy o wybodaeth cysyllter 芒 Kate Stokes-Davies ar 029 2032 3781



Lluniau
Radio Cymru
Natur


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy