Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Hwlffordd
Logo Yma i Chi Âé¶¹Éç Cymru Yma i Chi yn Hwlffordd
Hwlffordd yw'r dref ddiweddaraf yng Nghymru i elwa o gydweithrediad cymunedol blaengar Yma i Chi gyda Âé¶¹Éç Cymru.
  • Cliciwch yma i ddweud wrthon ni beth sy'n digwydd yn Hwlffordd

    Trwy gydol misoedd Mehefin a Gorffennaf eleni, bydd Hwlffordd yn ganolbwynt i ddigwyddiadau a rhaglenni Âé¶¹Éç Cymru. Bydd y rhaglenni ar Âé¶¹Éç Radio Wales, Âé¶¹Éç Radio Cymru a'r teledu yn cynnwys newyddion, y celfyddydau, addysg, drama, cerddoriaeth a hyd yn oed chwaraeon.

    Mae safle we newydd bbc.co.uk/hwlffordd yn cynnwys yr holl wybodaeth am y cyfnod a llawer iawn mwy am hanes, digwyddiadau a datblygiadau'r ardal.

    Mae cydweithrediad a brwdfrydedd pobl leol yn hanfodol i lwyddiant y prosiect, a dyma beth mae'r trefnwyr yn awyddus i'w annog. Ffurfiwyd bwrdd ymgynghori o bobl leol eisoes i wneud paratoadau ac mae grwpiau cymunedol yn canolbwyntio ar syniadau a gwneud cynlluniau ar gyfer allbwn Âé¶¹Éç Cymru o'r ardal.

    Eich cyfle chi i gyfrannu
    Dyma gyfle i bobl leol gyfrannu at y rhaglenni, i gymryd rhan mewn digwyddiadau, datblygu syniadau am hanesion sy'n bwysig ac ysgrifennu ar gyfer gwefannau'r Âé¶¹Éç.

    "Mae presenoldeb Âé¶¹Éç Cymru yn Hwlffordd yn ystod Mehefin a Gorffennaf yn rhan o'n hymgyrch Yma i Chi, sy'n gweithio gyda chymunedau ym mhob cwr o Gymru," meddai Alison Quinn, cydlynydd y prosiect o Âé¶¹Éç Cymru.

    "Mae yna frwdfrydedd am y syniad hwn yn y dref eisoes. Byddwn yn darlledu rhaglenni radio a theledu, yn creu deunydd ar-lein, yn cynnal gweithdai a pherfformiadau, yn chwilio am ddoniau newydd a llawer iawn mwy. Felly, os oes gennych stori i'w hadrodd, syniad am eitem newyddion neu hyd yn oed llun yr hoffech rannu, cysylltwch â ni."

    "Mae hwn yn brosiect mawr i Âé¶¹Éç Cymru," esbonia Alison. "Yn ystod ein cyfnod yn yma rydyn ni'n gobeithio ennill dealltwriaeth am yr ardal a'i phobl a bydd hefyd yn galluogi gweddill Cymru i ddysgu mwy am Hwlffordd."

    "Rydyn ni wedi derbyn croeso cynnes a chalonogol yn Hwlffordd," ychwanega, "Hoffwn ddiolch i'r bwrdd ymgynghori lleol am eu cefnogaeth a'u brwdfrydedd wrth helpu ni i ddatblygu cysylltiadau agos â'r gymuned, ac rydyn ni'n gobeithio bydd y rheiny'n parhau ymhell y tu hwnt i'r deu fis o ddigwyddiadau lleol."

    Hwlffordd yw'r chweched ardal yng Nghymru i elwa o'r prosiect lleol Yma i Chi. Mae'r fenter wedi ymweld ag Ynys Môn eisioes eleni ac yn 2005 aeth i Aberdâr, Dinbych, Butetown yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin.

    Gallwch gysylltu â thîm Yma i Chi! Âé¶¹Éç Cymru drwy anfon e-bost at ymaichi@bbc.co.uk neu drwy ffonio 08703 500 700.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Âé¶¹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Lluniau
    Radio Cymru
    Natur


    About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý