Âé¶¹Éç

Rufus (Athro llais)

Rufus (Athro Llais)



Mae Rufus y bochdew'n athro llais go anarferol! Er yn fychan ac yn flewog, mae'n hyfforddwr heb ei ail. A phan nad yw'n troelli ar ei olwyn cewch wybod ganddo sut i gynhesu eich llais, canu mewn tiwn a chadw at y curiad.

Ewch i ystafell Rufus er mwyn derbyn hyfforddiant llais

Fideos Rufus

Cyngor defnyddiol ac ymarferion canu.

Cynhesu
Yn y fideo yma mae criw Coridor 5 yn cynhesu eu lleisiau canu. Mae Pete yn ychwanegu sylw neu ddau am sut i ddechrau fynd ati.

Canu mewn tiwn!
Pam bod rhai pobl yn methu canu mewn tiwn? Mae Aron yn disgrifio sut mae'n cynhesu ei lais. Mae e hefyd yn dangos sut mae e a Pete yn osgoi canu nodau sy'n 'fflat' neu'n 'siarp'.

Yr offeryn dynol!
Mae'r llais yn offeryn cerddorol. Mae Maeve yn ymarfer cynhesu ei llais trwy ganu nodau gwahanol gyda help Riordan. Mae hi'n egluro pam bod angen cynhesu'r llais a'r corff cyn canu.

Y gêm rhythm
Mae Pete yn disgrifio sut i gadw amser wrth wrando ar guriadau a rhythmau gwahanol. Cadw amser yw nod y gêm.

tudalen blaenorolÌý´¥Ìý


Âé¶¹Éç iD

Llywio drwy’r Âé¶¹Éç

Copyright © 2015 Âé¶¹Éç. Nid yw'r Âé¶¹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.