Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gwyrfai - gyrrwr trên Canu clodydd Band Llanrug
Sylwadau gan rai o aelodau eraill Seindorf Llanrug am eu profiadau nhw o fod yn aelodau o'r band.
Gwyrfai Williams - un o yrwyr Trên Bach Yr Wyddfa wrth ei waith bob dydd ac yn aelod o'r band ers yn wyth oed:
"Mi fedri di werthfawrogi ar ôl bod ddiwrnod cyfa, wyth, naw, deg awr, mewn sŵn fel hyn - gwrando ar gerddoriaeth, does na ddim byd i'w guro fo! Mae'n nefoedd cael mynd i'r bandrwm i chwarae."

"Mae'r band fel teulu. Dwi ddim yn meddwl neith neb fy nhynnu i o'na."

"Mae'r band fel cymdeithas. Mae'r band yn dy helpu di trwy broblemau. Mae'r band wedi bod yn dda ofnadwy i mi."

"Mi fyddan ni'n mynd am beint bach ar ôl practis. Da ni'n cael sgwrs iawn - siarad am y band rydan ni'r rhan fwya; da ni'n band-a-holics os oes na ffasiwn air. Ond rydan ni'n cael pleser mawr ohono fo - siarad a planio ... a dyna be dwi'n lecio amdano fo, mae na rywbeth i wneud o hyd."

"Os oes na ddigon o amser - fatha yn y gaea - jyst codi'r corn i fyny am awr neu ddwy. Mae'n pasio'r amser yn neis."

Alun, cyn blismon ac ysgrifennydd trafnidiaeth:
"Ar y dechrau, rhyw fath o flute band oedd o ... wedyn, ganol 1834 mi gafodd grant gan Arglwydd Penrhyn i brynu cyrn newydd."

"Wrth gwrs, wrth gael mynd i'r band gyda'r nos, roedd rhywun yn anghofio pob dim am y gwaith am ryw awr neu ddwy. Does dim dwywaith iddo fod yn help dros y blynyddoedd, tynnu stress wrth i rywun anghofio efo'r offeryn."

Merfyn:
"Dwi'n meddwl fod y dyfodol yn glir. Os bydd Gavin yn dal efo ni, dwi'n ein gweld ni'n mynd reit uchel.

"Mae o'n gwybod pwy sy'n practeisio a phwy sydd ddim."

"Mae'r wraig wedi priodi 'i mewn i'r peth. Pan briodais 35 mlynedd yn ôl roeddwn i yn y band. A dwi'n dal i fynd ddwy, dair, gwaith yr wythnos. Na, dydi hi'm yn meindio o gwbwl. Fydd hi'n dwad efo ni weithiau."

I brif ddalen y band



Radio Cymru
Digwyddiadau
Adolygiadau


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý