Âé¶¹Éç

Explore the Âé¶¹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

Âé¶¹Éç Homepage
Âé¶¹Éç Cymru
Âé¶¹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Âé¶¹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Arweinydd y band - Gavin Saynor Seindorf Arian Llanrug
Mae dilyn y band yn golygu ymroddiad aruthrol, cyfeillgarwch mawr, cythraul canu, siom a llawenydd dibendraw.
Cafodd hyn i gyd ei ddangos mewn rhaglen deledu arbennig am Seindorf Arian Llanrug gafodd ei wneud gan Âé¶¹Éç Cymu, Y Band yn 2002-03.

Aeth y cynhyrchydd teledu, Gwenan Pennant Thomas, i ddilyn y band ar ei daith i frig byd y bandiau, yn dilyn blynyddoedd o siom a cholli.

"Am flynyddoedd maith mi fuo'r band yn colli ond gydag arweinydd newydd, Gavin Saynor wrth y llyw a'r cadeirydd ifanc, Berwyn Owen, yn llawn brwdfrydedd mi roeddan ni yn dilyn band oedd ar ei ffordd i fyny!" meddai Gwenan sy'n gynhyrchydd gyda Âé¶¹Éç Cymru ym Mangor.

Does dim amheuaeth am bwysigrwydd y band i drigolion Llanrug.

"Ma'r holl bentra'n dod at i gilydd i hel pres i'r band fynd i gystadlu yn Dundee. Y pwyllgor merched yn gwerthu cacennau ar y Maes yng Nghaernarfon a'r aelod ieuengaf, Aled sy'n 14 oed, yn golchi ceir yn y pentref i'r band," meddai.

Bu Gwenan yn dyst hefyd i wefr y cystadlu, y paratoi ymlaen llaw, y perfformiadau ar lwyfan a hyd yn oed y siom o golli ddwywaith ar ôl ei gilydd a hynny un tro i'r arch-elyn, Band Deiniolen - pentref sydd ond tafliad carreg go lew o Lanrug.

Ond er gwaethaf pob colli mae yna fôr o hiwmor a ffraethineb hefyd wrth i'r band ddal ati er gwaethaf pob siom a dod o hyd i lwyddiant ym Mhencampwriaeth Bandiau Pontins fis Hydref 2003.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am
Gavin Saynor - Yr Arweinydd ar y pryd
Berwyn Pils a Crim - Y Cadeirydd
Aelodau eraill band Llanrug



Radio Cymru
Digwyddiadau
Adolygiadau


About the Âé¶¹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý