Âé¶¹Éç

Tlodi

Plentyn yn eistedd ar wal

Beth mwy y gellid ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant?

Er fod safonau byw wedi codi'n gyffredinol, mae un ymhob pedwar plentyn yng Nghymru yn dal i fyw mewn tlodi. Mae ymchwil yn awgrymu fod plant tlawd yn fwy tebygol o ddioddef o ran eu hiechyd a'u datblygiad, yn fwy tebygol o gael damwain, ac yn fwy tebygol o gael babi yn eu harddegau. Mae'n broblem ddifrifol ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dweud y byddan nhw'n dileu tlodi plant erbyn 2020. Ond sut mae tlodi yn effeithio ar fywydau pob dydd teuluoedd yng Nghymru?

Bron i ddeng mlynedd yn ôl, bu rhaglen faterion cyfoes Âé¶¹Éç Cymru yn ffilmio teulu yng Nghwm Cynon oedd yn byw ar incwm oedd yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol. Ar gyfer rhaglen arbennig a ddarlledwyd nos Iau 26 Mawrth 2009, fe aeth Betsan Powys yn ôl i Berthcelyn i weld sut oedd y teulu erbyn hyn a beth oedd eu gobeithion ar gyfer y dyfodol. Roedd y cynhyrchiad yn rhan o dymor arbennig o raglenni am blentyndod a ddarlledwyd ar Âé¶¹Éç Cymru yn ystod mis Mawrth 2009. Gellid gwylio rhannau o'r rhaglen ar ein .


Achub y Plant a Sefydliad Bevan, Feb 2008

Facts and figures

  • 29% o blant Cymru yn byw mewn tlodi nawr o gymharu â 36% yn 1996-97.
  • Dau ymhob pump o blant mewn cartrefi ag incwm-isel yn byw mewn teuluoedd un rhian.
  • Mae plant yn fwy tebygol o lawer nag oedolion i fyw mewn cartref incwm isel.
    Ffynhonnell: Sefydliad Joseph Rowntree

Âé¶¹Éç iD

Llywio drwy’r Âé¶¹Éç

Âé¶¹Éç © 2014 Nid yw'r Âé¶¹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.