麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
CA2 Creu Stori
TACTEG

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Tacteg
Tacteg Cymraeg
CA 2
creu portread
creu stori
creu adroddiad
creu dyddiadur
creu cerdd
creu llythyr
creu deialog
creu trafodaeth
Termiadur
Rhieni ac athrawon
Gwyddoniaeth

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ysgrifennu stor茂au gwych!
Dalen Ffeithiau





Ansoddeiriau

Mae disgrifio a defnyddio amrywiaeth o ansoddeiriau yn bwysig iawn ym mhob stori. Yn eich stor茂au bydd angen i chi ddisgrifio'r cymeriadau a gwahanol sefyllfaoedd.

Darllenwch yr enghraifft wael yma:

Bachgen da oedd Tomos. Roedd e bob amser yn dda i Miss Griffiths ac yn falch bob tro o fod yn fachgen da.


Mae defnyddio'r gair 'da' sawl gwaith yn ddiflas. Darllenwch yr enghraifft yma sy'n defnyddio ansoddeiriau eraill:

Bachgen cwrtais oedd Tomos. Roedd e bob amser yn ymddwyn i Miss Griffiths ac yn falch bob tro o fod yn fachgen da.

Darllenwch y testun yma. Beth am feddwl am ansoddeiriau sydd yn well na 'cyffrous'.


Teimlai Mared yn gyffrous cyn ei pharti gan ei bod wedi edrych ymlaen i ddiwrnod cyffrous ei phen-blwydd ers talwm. Roedd hi'n teimlo'n gyffrous fel hyn bob tro cyn achlysur arbennig!


N么l i ben y dudalen

Idiomau

Er mwyn datblygu eich stor茂au ymhellach, mae'n syniad da i ddefnyddio idiomau.

Dyma ddwy enghraifft:

Cerddodd Idwal adref 芒'i ben yn ei blu. Dim mwy!

Roedd Huw yn un da am gynhyrfu'r dyfroedd, ond roedd Nia wedi cael llond bol arno'n tynnu ei choes byth a beunydd.

Gallwch ddefnyddio idiomau hefyd pan mae'r cymeriadau'n siarad. Mae hyn yn sicr yn dangos gwelliant yn y gwaith!

"Pam wyt ti wedi cochi at dy glustiau? Oes cywilydd arnat ti neu rywbeth?" gofynnodd Branwen yn ymosodol.

"Pam dy fod di wedi codi mor fuan heddiw? Rwyt ti wedi codi cyn c诺n Caer?!" holodd Anti Fflur mewn penbleth gan gau ei g诺n nos.

N么l i ben y dudalen

Arafu a chyflymu stori

Gallwch newid cyflymder eich stor茂au trwy newid ac addasu hyd y brawddegau.

Mae brawddegau hir yn gallu cyfleu naws araf neu hamddenol.

Cerddodd Leusa'n ling-di-long ar hyd y llwybr hir i'r parc gan nad oedd dim brys yn y byd arni i gyrraedd. Roedd wedi gorffen ei gwaith cartref, felly yr unig beth oedd angen iddi ei wneud oedd prynu'r hufen i芒 mwyaf blasus a welsoch chi'n eich dydd erioed a'i fwyta'n araf, araf!

Mae brawddegau byr yn gallu cyfleu naws gyffrous neu ofnus, er enghraifft:

Brysiodd. Arhosodd yn ei unfan. Beth nesaf? Edrychodd yn ofnus i'r tywyllwch dudew! Cerdded...Rhedeg...

Mae amrywio hyd y brawddegau'n bwysig er mwyn arafu a chyflymu'r stori. Mae hyn yn effeithio ar awyrgylch y stori!

N么l i ben y dudalen

Cynnal y diddordeb

Mae darllen stori dda yn gallu bod yn brofiad gwych!

Weithiau, mae'r stor茂au'n gallu mynd yn hir ac weithiau'n ddiflas!

Dyna pam ei bod yn bwysig cadw a chynnal diddordeb y darllenydd.

Mae sawl ffordd gallwch chi gyflawni hyn:

  • Cyflwyno cymeriad newydd - ond cofiwch fod y cymeriad hwnnw'n rhyngweithio gyda'r cymeriadau eraill!

Pwy ddaeth heibio ond Peredur y Postmon - un da oedd o am gario clecs! Doedd dim ond yn rhaid i chi arafu ac fe fyddai wedi cael y cyfle i ddweud stori am unrhyw un yn y pentref.

  • Creu problem arall fydd angen ei datrys.

Yn anffodus, roedd wal dal iawn yn eu wynebu! I ble allen nhw ddianc y tro hwn? I ba gyfeiriad oedd Swyddfa'r Heddlu? Clywon nhw'r lleisiau'n agos谩u, yn agos谩u nes...

  • Disgrifio sefyllfa neu awyrgylch newydd gan arwain y cymeriadau ar antur arall efallai! Gallai hwn arwain at rywbeth annisgwyl.

Roedd y m么r yn hollol wahanol i'r diwrnod blaenorol. Roedd ei ddannedd yn rhwygo'r clogwyni gyda'r s诺n byddarol yn atseinio ar hyd y traeth. Beth gafodd ei boeri i'r lan ond cist fechan - cist a fyddai'n datgelu tynged y tri!


N么l i ben y dudalen

N么l i'r dudalen flaenorol


CA2 Creu Stori

Cwis


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy