
Er mwyn deall yr uned Gwaed, mae angen cofio: - Mae pedair rhan i strwythur gwaed:

(i) celloedd coch - y rhain sy'n cludo ocsigen o'r ysgyfaint i feinweoedd a chelloedd y corff sydd eu hangen ar gyfer resbiradu. Maent yn llai effeithiol ar 么l 120 diwrnod, ac felly fe'u hamnewidir yn gyson. Mae pigment yr haemoglobin yn goch llachar pan fo ocsigen yn bresennol
(ii) celloedd gwyn - yn cylchredeg o gwmpas y corff fel rhan o'r broses amddiffynnol. Mae llai o'r rhain na chelloedd coch, ac maent yn gallu gwthio drwy leinin y capilar茂au gwaed i fewn i feinweoedd y corff er mwyn ymosod ar ficro-organebau
(iii) platennau - rhan leiaf y gwaed sy'n cynorthwyo ceulo'r gwaed pan fydd rhywun yn cael briw
(iv) plasma - hylif sy'n cynnwys d诺r yn bennaf. Mae'n dosbarthu mwynau, gwastraff, bwydydd a hormonau trwy'r corff, a chludo gwastraff o gelloedd ar 么l y broses o resbiradu Cofiwch
- Mae rhydwel茂au yn anfon gwaed i'r capilar茂au o'r galon
- Mae gwythiennau yn cario'r gwaed o'r capilar茂au i'r galon
|