Ein Gweithlu
Ein gweithlu yw ein prif gryfder. Ac mae sicrhau bod ein gweithlu yn cynrychioli鈥檙 cynulleidfaoedd a wasanaethir gennym yn hanfodol i wasanaethu a chynrychioli pawb, pwy bynnag a ble bynnag y b么nt.
Delwedd: Dau aelod o staff y 麻豆社 yn stiwdio 麻豆社 Radio 2
Uchelgeisiau o ran y gweithlu
Yn bennaf oll, ein nod yw denu, cyflogi a chadw鈥檙 talentau gorau posibl yn y 麻豆社 ni waeth beth fo鈥檜 cefndir.
Er bod ein huchelgais i gynyddu cynhwysiant a pherthyn yn berthnasol i鈥檙 麻豆社 cyfan, gan gynnwys yn rhyngwladol, yn y DU cawn ein harwain hefyd gan ein nodau uchelgeisiol i sicrhau gweithlu amrywiol, er mwyn ein helpu i ddatblygu 麻豆社 sy鈥檔 adlewyrchu si芒p a chyfansoddiad y DU a鈥檙 cynulleidfaoedd a wasanaethir gennym. Mae鈥檙 gynrychiolaeth gywir yn y 麻豆社 yn ein helpu i sicrhau鈥檙 gynrychiolaeth a鈥檙 portreadau cywir yn ein cynnwys.
Mae ein nodau yn gweithredu fel canllaw, wedi鈥檌 gynllunio i helpu i sicrhau ein bod yn recriwtio o鈥檙 gronfa ehangaf posibl o dalent a dangos bod y 麻豆社 i bawb, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn ystyried ei fod yn le iddyn nhw ar hyn o bryd o bosibl. Rydym yn ceisio chwalu rhwystrau er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i ymuno 芒鈥檙 麻豆社 a ffynnu ynddo.
Yn 2021 gwnaethom ymrwymo i fod yn sefydliad 50:20:12 modern, sef 50% o fenywod a 50% o ddynion, 20% o bobl o gefndir Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a 12% o staff anabl, erbyn mis Mawrth 2026.
Yn 2022 gwnaethom ddweud y bydd 25% o鈥檙 staff yn dod o gefndiroedd dosbarth gweithiol erbyn 2027.
Mae ein ffigurau archwiliedig diwethaf o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024 yn dangos bod ein gweithlu yn cynnwys:
- 50.1% o fenywod
- 49% o arweinwyr sy鈥檔 fenywod
- 17% o staff Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol
- 14.4% o arweinwyr Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol
- 9.4% o staff anabl
- 7.9% o arweinwyr anabl
- 21.1% o staff dosbarth gweithiol
- 19.3% o arweinwyr dosbarth gweithiol
Adeiladu ar ein cynnydd
Rydym yn falch o鈥檙 cynnydd a wnaed, ond gwyddom fod gennym fwy i鈥檞 wneud i sicrhau ein bod wir yn cynrychioli鈥檙 cynulleidfaoedd a wasanaethir gennym, yn enwedig ym meysydd ethnigrwydd ac anabledd.
Gwyddom hefyd ei bod yn bosibl nad yw鈥檙 labeli rydym yn eu defnyddio i bennu鈥檙 nodau hyn ar gyfer y gweithlu yn cynrychioli鈥檙 ffordd y mae pawb yn dewis disgrifio eu hunain. Mae鈥檙 grwpiau hyn yn bwysig er mwyn dwyn ein hunain i gyfrif, adrodd ar ein cynnydd a sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar chwalu鈥檙 rhwystrau a wynebir gan bobl o gefndiroedd gwahanol. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cynrychioli ac yn adlewyrchu ein cynulleidfaoedd yn ehangach, er enghraifft, sicrhau bod ein staff LGBTQ+, grwpiau ffydd a phobl o wahanol oedrannau yn teimlo ymdeimlad o berthyn yn y 麻豆社.
Mae鈥檔 briodol ein bod yn adolygu ein cynlluniau bob amser ac fel rhan o鈥檙 cam nesaf hwn o鈥檔 strategaeth, byddwn yn sicrhau bod ein cynlluniau yn cyd-fynd 芒 chyfnod newydd y Siarter, gyda鈥檙 nod o gyflawni ein holl nodau erbyn 2027.
Hefyd, er mwyn cyd-fynd ag arferion gorau鈥檙 diwydiant a rhoi mwy o amlygrwydd i鈥檔 staff niwrowahanol, o 2025/26 byddwn yn mesur canran y cydweithwyr sy鈥檔 anabl, ynghyd 芒鈥檙 rheini sy鈥檔 fyddar a/neu鈥檔 niwrowahanol. Mae hyn yn golygu y caiff ein nod anabledd o 12% ei ddisodli gan darged newydd o 14% sy鈥檔 mesur y cyfanswm cyfunol o staff byddar, anabl a/neu niwrowahanol. Rydym wedi gwella rhaglen 麻豆社 Extend i鈥檔 helpu i gyflawni鈥檙 lefel hon o gynrychiolaeth.
Yn unol 芒 Deddf Cydraddoldeb 2010, mae Extend yn darparu rolau wedi鈥檜 neilltuo ar gyfer pobl anabl a all gynnwys y rhai sy鈥檔 nodi eu bod yn fyddar a/neu鈥檔 niwrowahanol. Hefyd, rydym yn adolygu ac yn gwella prosesau i alluogi pob cydweithiwr i gael yr addasiadau sydd eu hangen cyn gynted ag y bo modd.
Rhoi ein strategaeth ar waith: Ein Gweithlu
Ymysg rhai o鈥檔 meysydd ffocws allweddol drwy gydol cyfnod y strategaeth hon mae:
Adlewyrchu ein cynulleidfaoedd yn ein gweithlu drwy:
- alluogi arferion recriwtio a chynefino mwy cynhwysol er mwyn sicrhau ein bod yn denu鈥檙 gronfa ehangaf posibl o dalent amrywiol
- parhau 芒鈥檔 ffocws i recriwtio Prentisiaid Gyrfaoedd Cynnar o gefndiroedd amrywiol ledled y Deyrnas Unedig drwy ein rhaglen glodwiw
- gwella ein cyfleoedd i ddatblygu a gwneud cynnydd drwy ehangu effaith ein mentrau datblygu gyrfaoedd gan gynnwys 80/20 a Hot Shoes
- ailgadarnhau ein hymrwymiad i 麻豆社 Extend, ein rhaglen flaenllaw i neilltuo rolau yn unol 芒 Deddf Cydraddoldeb 2010 ar gyfer pobl anabl, a all gynnwys y rhai sy鈥檔 nodi eu bod yn fyddar a/neu鈥檔 niwrowahanol.
- Adeiladu ar lwyddiant RISE ac Elev8 鈥� ein rhaglenni i ddatblygu talent o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a phobl fyddar, anabl a/neu niwrowahanol.
Creu amgylcheddau gweithio cynhwysol a hygyrch drwy:
- gyflwyno hyfforddiant ar Arweinyddiaeth Gynhwysol i reolwyr a hyfforddiant newydd i staff er mwyn sicrhau bod amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a bod pawb yn cael ei annog a鈥檌 gefnogi i gymryd rhan lawn
- adolygu a diweddaru ein polis茂au a gweithdrefnau er mwyn sicrhau eu bod yn hyrwyddo cynhwysiant ac yn rhoi鈥檙 cymorth cywir
- sicrhau dyluniadau, diwylliannau a dulliau cyfathrebu hygyrch a chynhwysol, gyda chymorth gwell i鈥檙 gweithlu a phroses wedi鈥檌 symleiddio i sicrhau addasiadau, gan gynnwys technoleg gynorthwyol (gyda hyfforddiant priodol) ar gyfer ein staff byddar, anabl a/neu niwrowahanol
- rhoi hygyrchedd wrth wraidd ein trawsnewidiad digidol a sicrhau ei fod yn elfen sylfaenol o brofiad defnyddwyr a chylch oes cynnyrch
Ceisio barn ein cydweithwyr er mwyn gwella鈥檙 ffordd rydym yn gweithio drwy:
- wella effeithiolrwydd ein Rhwydweithiau Staff drwy gynnig adnoddau a strwythurau newydd, gyda chymorth y Noddwyr Gweithredol a Chyfarwyddwyr Adnoddau Dynol
- parhau i wella profiad ein staff, drwy feithrin dealltwriaeth well o鈥檙 rhwystrau i gynhwysiant a鈥檙 ffactorau sy鈥檔 galluogi cynhwysiant ar gyfer ein staf
Rhoi ein strategaeth ar waith: ein rhwydweithiau staff a鈥檔 grwpiau cymunedol
Mae ein rhwydweithiau staff wrth wraidd y broses o greu ymdeimlad o berthyn yn y 麻豆社
Rydym yn eithriadol o falch o鈥檔 naw rhwydwaith staff sy鈥檔 ffynnu, ac sydd 芒 mwy nag 11,000 o aelodau i gyd erbyn hyn. Maent yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin cyd-ddealltwriaeth, cydweithrediad a dathliad ar y cyd o鈥檔 cymunedau unigryw ym mhob rhan o鈥檙 sefydliad.
Mae ein rhwydweithiau鈥檔 adlewyrchu anghenion ein staff, yn ymateb i newidiadau cymdeithasol ac yn ein helpu i ddeall sut y gallwn helpu pawb i wireddu eu potensial a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi yma. Yn fwy diweddar, gwnaethom gyflwyno rhwydwaith Enigma i staff niwrowahanol, ac fel rhan o 麻豆社 Embrace, ein rhwydwaith amlddiwylliannol, rydym wedi ychwanegu鈥檙 Rhwydwaith Staff Iddewig a 麻豆社 Salaam ar gyfer staff Mwslimaidd. Mae gennym rwydweithiau anffurfiol hefyd fel ein rhwydwaith Gyrfaoedd, ein rhwydwaith Atal Dweud a grwpiau cymunedol eraill gan gynnwys hybiau ledled y Deyrnas Unedig ac yn 麻豆社 Studio
Gweithgareddau rhwydweithiau staff
Dros y flwyddyn, mae ein rhwydweithiau鈥檔 cynnal digwyddiadau a sesiynau gwrando ar gyfer eu haelodau. Mae digwyddiadau diweddar wedi cynnwys trafodaeth banel 鈥業s Class Still a Thing?鈥� ein rhwydwaith amrywiaeth economaidd-gymdeithasol, 麻豆社 RAISED; i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod cyflwynodd ein tri rhwydwaith i fenywod sesiwn 鈥楬ow Your Identity Is Your Superpower鈥�; cynhaliodd 麻豆社 Ability, ein rhwydwaith staff anabl, Rethink Disability Festival i nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl; a chynhaliodd y Rhwydwaith Talent Ifanc ddigwyddiad ar draws y diwydiant gyda Sky, NBC Universal a Warner Bros Discovery i gefnogi prosesau rhwydweithio a thrafod materion sy鈥檔 berthnasol i bobl ifanc yn y diwydiant cyfryngau.
Cefnogi ein rhwydweithiau staff
Caiff pob un o鈥檙 naw rhwydwaith ffurfiol eu cefnogi gan uwch-gynrychiolydd Adnoddau Dynol a Noddwr Gweithredol, ynghyd 芒 phrosesau llywodraethu clir ac adnoddau i gefnogi eu twf a鈥檜 heffaith.
Mae cyd-gadeiryddion ein rhwydweithiau staff canolog bellach yn cael hyfforddiant arbenigol ac mae 20% o鈥檜 hamser gweithio wedi鈥檌 ddiogelu ar gyfer eu gweithgarwch rhwydwaith staff. Mae llawer o aelodau bwrdd rhwydweithiau staff wedi cael budd o鈥檜 profiadau ac wedi symud ymlaen i weithio mewn rolau mwy heriol.