Main content

Rownd y Chwarteri Talwrn 2026

Pennill bachog yn mynegi chwilfrydedd

Tir Iarll

Yn Facwy, rwy’n pwslo ers tipyn

o’s point i’r corn hirlas – ’mond gofyn,

ac os oes gwin croeso

syposo fod ynddo

pam plonco fe’n fflat ar y cwshin?

Mererid Hopwood 8.5

Tafarn y Vale

“Pam ti’n iwso creon coch

a brwsh paent ar hyd dy foch?

Pam ti’n sgriblo llinell ddu

a hwpo crib i’th lyged di?

Lliwio llun ar wyneb... pam?

Mae’n well ‘da fi jyst wyneb Mam.”

Dwynwen Llywelyn yn darllen gwaith Enfys Hatcher 9

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘sw’

Tir Iarll

Dod i osod, yn dusw,

Amen hallt ger lôn maen nhw.

Aneirin Karadog 9

Tafarn y Vale

Yn y sw mae tsimpansî,

Un â’r ddawn i farddoni.

Gareth Ioan 8

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi ffeindiais i gornel fach dawel’

Tir Iarll

Mi ffeindiais i gornel fach dawel

I weithio ar deitl i’m nofel,

Un gwreiddiol a catchy

Cans dyna sy’n cyfri…

Mae ‘da fi myn diawl: ‘Stafell Ddirgel’!

Aneirin Karadog 8.5

Tafarn y Vale

Dim siw, dim un miw ar yr awel;

Dim sisial na sibrwd yn isel.

Mewn stafell fach sgwâr

di-st诺r, digon gwâr -

MI FFEINDIAIS I GORNEL FACH DAWEL!!!

Iwan Thomas 8.5

Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Ni allwn atal y llanw eto.’

Tir Iarll

Pan fyddai’r môr a’r tymor yn twymo,

Awn i’r traeth wrth fy nghartre i weithio

Caerau unnos heb-eu-concro yno,

Llunio caerau, cyn i’r llanw’u cario;

Er imi eu hailsaernïo’n ddyfal,

Na allwn atal y llanw eto.

Emyr Davies 9.5

Tafarn y Vale

Rhown eli ar glwyf er mwyn cydrwyfo

yno’n y dylif a’r tonnau’n diawlio;

Rhag ynni’r eigion a’r creigiau’n rhwygo

ni allwn atal y llanw eto.

A ninnau’n egwan heno – gwnawn barhau

i wneud ein gorau â’n bad yn gwyro.

Ianto Jones 9

Pennill ymson llygoden

Tir Iarll

Mae ’nghlics ’di stopio gweithio

A ’mherchennog sy’n mynd yn flin,

A’r unig ffordd i ’nghael i fynd

Yw rhoi batri fyny...lle mae batris fod i fynd.

Tudur Dylan Jones 8.5

Tafarn y Vale

Mae bywyd mewn atic i’w ganmol,

Mae’n dwym ac yn sych – mae’n gartrefol;

Y teleffon lein sy’n sobor o ffein -

Ond ffeinach yw’r gwifrau tryd... bzzzzzzzzz

Gareth Ioan 8.5

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Gwrandawiad Disgyblu

Tir Iarll

Neithiwr mewn t欧'n Dihewid mewn sesiwn frys dan gêl

bu cyfarfod i ddisgyblu prydyddion di-wardd y Fêl.

Mae eticet y Talwrn yn dibynnu ar chware teg,

nid trwy rhyw fistimanars mae sicrhau y deg.

Fel rheolwyr clwb Southampton, mi drion nhw anfon sbei

i sylwi ar ein tactics dan gapteiniaeth gwyrthiol Nei.

Daeth â'i ffôn o Giliau Aeron i'n ffilmio wrth ein gwaith,

ond welodd o mohonom, na rioed weld Gwynfor chwaith.

Ni chafwyd sgandal debyg ers i Nei roi meicroffôns

i glustfeinio ar symudiadau personol T. Llew Jones.

Rhag inni guro'r timau o'r de reit lan i'r north,

fe ddygon nhw bob odliadur rhwng Caerfyrddin ac Aberporth.

Fe geision nhw lên ladrata; ac annwyl Geri Wyn

pa le, pa fodd dechreuaf, fe wylit pe gwelit hyn.

Fe geision nhw'n hacio ninnau gan newid ein 'Cân' i 'Song',

a cheisio'n nhw freibio Nia i gyfri'r sgôr yn rong.

Bu'r cyfarfod yn llwyddiannus, a chosbwyd tîm y Fêl,

ond cyn yr ornest heno, a chyn eu rhoi'n y jêl,

fe drion nhw brynu Ceri yn eu ffordd ddichellgar hwy,

ond yr hyn na wyddai'r diawled - roedd Tir Iarll 'di talu mwy.

Tudur Dylan Jones 9

Tafarn y Vale

Gwrandawiad Disgyblu Mistar Urdd.

Camymddwyn proffesiynol yw’r cyhuddiad, Mistar Urdd.

Mae’n glir o’r Maes eich bod chi wedi gwyro’n bell o’r ‘ffyrdd.’

Gor-yfed shots amryliw ar stondin 麻豆社,

...s’dim ots taw lliwiau’r Urdd o’n nhw... o’ch chi’n hwdi gyts cyn tri!

Y dwyn o Stondin Tina, y rhechen yn CBAC!

Y chlatsho ‘da Ben Dant a Cyw, ‘head-but,’ a dwrn... lawr... smac!

Haijaco’r canlyniadau, a thaflu’r gwobrau i gyd,

a’r snog ‘da Mari Lovegreen (aeth yn ‘viral’ dros y byd!)

A gwarthus oedd y gweiddi, “it’s who you know, mae’n ffics!

Mae’r beirniaid yma’n drewi, ma’r lle yn llawn o... “glics.”

‘Dymp-taclo’ Heledd Cynwal, ac yna baglu Rhun -

A gweiddi “CRACHACH,” dros y lle... wnaeth bawb yn eitha’ blin.

Mae hwyl i’w gael ym mhobman, ond Mistar Urdd, cym on!

Masgot plant yn smoco wîd yw’r drosedd sydd ger bron!

Mae newid ‘look’ yn un peth, ond... ma’ch streips yn mynd am lan,

A’r triongl nawr sydd yn sgi-wiff, a’r gwyn â thint ffêc-tan.

Eich ‘midlife crisis,’ gyfaill, sy’n amlwg yn beth cas-

mae wedi mynd yn ormod, cymerwch flwyddyn mas

yn rehab, i gael cofio yr hwyl fu yma’n hir,

a chewch ddod nôl i’n cwmni, i aros cyn bo hir.

Enfys Hatcher 9

Ateb llinell ar y pryd - Does dim byd fel byd y bêl

Tir Iarll

Gareth er mynd i'r gorwel

Does dim byd fel byd y bêl

Aneirin Karadog 0.5

Tafarn y Vale

Er ofer lladdfa rhyfel

Does dim byd fel byd y bêl

Gareth Ioan

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Ymarfer

Tir Iarll

I Caio, fy nai

A bydd hyn oll o dy flaen: boddi

yn niflastod dyddiau Mawrth, y pwll nofio’n

dy lyncu o las y sgrin i las y teils,

lle mae arnofio yn amhosibl,

a symud yn strach gyda’r plastig saff

yn faich o gylch dy freichiau, a thithau’n ysu

am gael mynd, mynd ar dy hynt.

Ond wedyn – mor anesboniadwy â’r bunt

o dan dy glustog – fe fyddi, un dydd,

yn sblasio, strancio, cicio’n rhydd,

nes clywed, drwy arogl y clorin,

adlais o anogaeth

y tu ôl i ti...

yn boddi nawr

wrth i ti ymlafnio ymlaen,

ymlaen,

tua’r d诺r dwfn.

Gwynfor Dafydd 10

Tafarn y Vale

Ymarfer Galaru

Dyw e byth yn gadael.

Mae e yn y cysgodion heddi’ ‘to,
mewn cân ar y radio.

Roedd e ‘na ddoe
mewn arogl olew,
echdoe wrth fwyta stêc,
ac wythnos ddiwethaf
yn chwerthiniad fy mab.

Fel bob tro,
anadlaf drwy’r hyrddiadau,
ac ymarfer dygymod.

Gwrando,
croesawu,
a dod i’w ddeall yn well.

Achos, dyw e byth yn gadael,
dyw e ddim yn ysgafnhau,
ond rwy’n ymarfer dygymod.

Enfys Hatcher 9.5

Englyn: Clefyd y Gwair

Tir Iarll

Mai yw’r mis y mae’r meysydd yn y wlad

Yn troi’n flodau ’sblennydd

A’r perci’n berwi, ond bydd

Rhai yn diawlio’r un dolydd.

Emyr Davies 9.5

Tafarn y Vale

(Pentre Glan Môr)

Pan ddaw’r ha’, gan ei dagu, - awelon

A haul yn ei fygu,

Â’i draethau’n llawn heidiau hy,

Mewn golud mae e’n gwaelu.

Gareth Ioan 9