Main content
Dyw'r rhaglen yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Urdd, gobaith, beth?

Yr awdur Mari Emlyn, wyres Syr Ifan ab Owen Edwards yn edrych yn 么l ar ganrif o waith dyngarol yr Urdd. Mari Emlyn looks back at the Urdd's humanitarian work.

A hithau鈥檔 ganmlwyddiant sefydlu Urdd Gobaith Cymru, mae鈥檙 awdur Mari Emlyn, wyres Syr Ifan ab Owen Edwards yn craffu ar yr enw, 鈥楿rdd Gobaith Cymru鈥� ac arwyddoc芒d y gair 鈥榞obaith鈥� mewn termau ymarferol.
Mae Mari鈥檔 edrych ar sut y datblygodd yr elfen ddyngarol gref o fewn yr Urdd o gofio mai naws filitaraidd oedd i鈥檙 mudiad a gychwynnwyd gan ei thaid yn 1922.
Nid Syr Ifan oedd yr unig un yn berwi 芒 syniadau yn 1922. Dyma鈥檙 flwyddyn y sefydlodd y Parchedig Gwilym Davies ei neges Heddwch ac Ewyllys Da, ac er mai mudiad iaith yn ei hanfod oedd yr Urdd i ddechrau, cafodd Syr Ifan ei ddylanwadu鈥檔 drwm gan y Parch Gwilym Davies a鈥檌 neges o heddwch. Mae Mari鈥檔 edrych ar y dylanwad hwn ar ei thaid ac ar ddatblygiad yr Urdd o fod yn fudiad gwladgarol pur i fod yn un oedd, a sy'n parhau i goleddu egwyddorion dyngarol dwfn.
Yn fuan ar 么l yr Ail Ryfel Byd, croesawyd plant o鈥檙 Almaen i Gymru gan aelodau鈥檙 Urdd, a threfnodd y mudiad gronfa ariannol er mwyn danfon sawl ambiwlans i rai o wledydd Ewrop oedd wedi cael eu llethu ar derfyn y rhyfel.
Gwelwn waddol gwaith y degawdau blaenorol ar waith yr Urdd heddiw wrth i鈥檙 mudiad groesawu ffoaduriaid o Syria, Afghanistan ac o鈥檙 Wcr谩in i鈥檞 gwersylloedd.
Urdd Gobaith Beth, felly? Ymunwch 芒 Mari wrth iddi hi geisio ateb y cwestiwn hwn gan daflu goleuni ar daith a gwaith yr Urdd o鈥檌 ddyddiau militaraidd cynnar i鈥檙 presennol a鈥檙 mudiad erbyn hyn wedi datblygu鈥檔 fudiad sy鈥檔 estyn llaw i鈥檞 gyd-ddyn, pwy bynnag y bo.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 1 Meh 2022 18:00

Darllediadau

  • Sul 29 Mai 2022 18:30
  • Mer 1 Meh 2022 18:00