Main content

Annie Morgan Suganami

Beti George yn holi yr artist Annie Morgan Suganami. Beti George interviews the artist Annie Morgan Suganami.

Celf yw diddordeb ein gwestai Annie Morgan Suganami, a hynny ers yn blentyn bach - ond fe aeth hi i'r Academi Frenhinol yn Llundain yn 15 mlwydd oed i gael ei hyfforddi i chwarae'r ffliwt, a dyna oedd yr offeryn roddodd fywoliaeth iddi a hynny fwy neu lai ar draws y byd.

Yna yn 60 mlwydd oed penderfynodd wireddu breuddwyd a mynd n么l i'r coleg a chael gradd mewn celfyddyd gain. Erbyn hyn mae hi'n artist adnabyddus ac wrth galon ei gwaith mae portreadau urddasol a chynnes o fenywod h欧n.

Fe ddaw yn wreiddiol o bentref Dolau ger Aberystwyth.

Mae hi'n trafod ADHD, ac yn s么n ei bod hi ar y sbectrwm yma a nifer o'r teulu ac yn ei gwneud yn berson creadigol a phenderfynol.

Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis 4 c芒n yn cynnwys un o ganeuon Cusan T芒n, gr诺p y bu hi'n rhan ohono sydd wedi ail ffurfio yn ddiweddar ar 么l 25 mlynedd o seibiant.

28 o ddyddiau ar 么l i wrando

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Dydd Sul 18:00

Clip

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Bryn Terfel & Orchestra of Opera North

    Oh! What a Beautiful Mornin'

    • The Sound of Bryn Terfel (By Classic FM).
    • Decca (UMO).
    • 18.
  • Max Bruch

    Violin Concerto No. 1 in G Minor, Op. 26: III. Finale. Allegro energico

    Conductor: Bernard Haitink. Orchestra: Royal Concertgebouw Orchestra.
    • Itzhak Perlman - A Portrait.
    • Warner Classics.
    • 16.

Darllediad

  • Dydd Sul 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad