Main content
Wrth i Bortmeirion ddathlu ei ganmlwyddiant dros y Pasg 2026, Betsan Anwyl sy'n mynd ar drywydd rhai o hanesion hynod y pentref gwyliau Eidalaidd ei naws - a hynny trwy gyfrwng gwrthrychau a gofnodir yn archifau'r Sied Fawr. Cawn glywed am y wraig ecsentrig oedd yn byw yn y t欧 mawr cyn i'r lle agor fel gwesty, a'r adroddiad llys yn ei herbyn am fwydo ei ch诺n niferus 芒 bara a llaeth yn ystod cyfnod dogni'r Rhyfel Byd Cyntaf. Daw disgrifiad cynnar o'r gwesty o'r daflen a ddyluniwyd gan y pensaer Clough Williams-Ellis i hyrwyddo'r lleoliad yn 1925. Ar y pryd, byddai d诺r yn cael ei gludo gan ddisgyrchiant o'r bryn gerllaw; doedd dim gwres canolog ond digon o dannau mawr agored; dim lifft ond grisiau derw llydan. Bydd pensaer sy'n gwneud gwaith ym Mhortmeirion heddiw yn edrych trwy hen gatalog arwerthiant Neuadd Emral yn y Fflint yn 1936 ac yn s么n sut aeth Clough yno ar frys i achub nenfwd rhyfeddol Ercwlff, ei brynu am 拢13 a'i gludo yn 么l i Bortmeirion. Ymhlith eitemau eraill gaiff sylw mae llythyr personol gan y sgwennwr Jan Morris at reolwr y gwestai, a cherdyn gwestai cyn reolwr y Beatles, Brian Epstein. Roedd e'n ymwelydd cyson yn y 1960au a byddai'r dyddiadau ac enwau tai'r pentref lle byddai'n aros yn cael eu nodi ar y cerdyn.