Owain Richards
Beti George yn holi Owain Richards Pennaeth yr Heddlu yn Gibraltar. Beti George interviews Owain Richards Police Commissioner, Gibraltar.
Owain Richards Pennaeth yr Heddlu yn Gibraltar yw gwestai Beti George, ac mae'n cael ei alw yn " Geidwad y Graig".
Fe gafodd ei fagu ar fferm Cae鈥檙 Defaid ger Trimsaran yng Nghwm Gwendraeth, ac roedd o wrth ei fodd gyda rhaglenni am yr heddlu fel 'The Bill' ac fe benderfynodd yn fachgen ifanc mai plismon oedd ef am fod wedi tyfu fyny.
Fe ddechreuodd ei yrfa yn Aberystwyth, aeth ymlaen i'r "Met" yn Llundain ac fe gafodd ei ddyrchafu i fod yn Commander. Roedd Owain wedi ei leoli yn Wandsworth borough, yn Tooting fel Arolygydd Ditectif.
Bu'n gweithio wedyn yn Barnet, a Kingston Upon Thames fel Prif Arolygydd yna dyrchafiad arall i fod yn Arolygydd Prif Dditectif, ble roedd o鈥檔 delio gyda throseddau yn erbyn plant. Roedd hyn yn anodd iawn, a fynta鈥檜 yn dad ei hun, roedd darllen a delio gyda rhai o鈥檙 achosion difrifol hynny yn erchyll, ond roedd hi鈥檔 rhan o鈥檙 swydd ac roedd rhaid dysgu sut i ddygymod ar sefyllfaoedd oedd yn codi yn y gweithle.
Yn ystod y cyfnod yma hefyd, roedd ail strwythuro mawr yn digwydd ar draws Heddlu鈥檙 Met, a daeth Owain yn Prif Uwch-arolygydd yn San Steffan. Roedd hyn yn anhygoel wrth edrych yn 么l. Roedd Llundain mor iconic, ac roedd dros 2 fil o staff yn gweithio oddi dano ar yr amser. Roedd yn gyfrifoldeb mawr!
Cafodd dau heddwas ei hanafu yn ddifrifol yn y cyfnod yma, ac mae Owain yn cofio mynd i鈥檞 gweld yn yr ysbyty.
Ond llynedd fe benderfynodd symud gyda'i wraig a'i blant i rywle mwy gwledig, ac fe wnaeth gais am swydd Comisiynydd yr Heddlu yn Gibralter, a'i gael.
Mae'n rhannu hanesion ei fywyd ac yn dewis 4 can yn cynnwys 'Wonder Child' gan Mary Black, gan iddo ef a'i wraig fynd trwy driniaeth IVF.
Ar y Radio
Darllediad
- Yfory 18:00麻豆社 Radio Cymru
Archif Beti a'i Phobol
Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people