Main content

Ffilmiau Madfabulous ac Effi o Blaenau

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond with Manon Steffan Ros.

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Yn y rhaglen hon mae Manon yn cael cwmni y cynhyrchydd a鈥檙 sgwennwr Dafydd Llewelyn sydd yn rhannu ei argraffiadau o ffilm 'Madfabulous', ffilm sydd yn seiliedig ar stori wir ac yn dilyn hanes Henry Paget, pumed Marciws Sir F么n wrth iddo gyrraedd yr ynys i hawlio ei etifeddiaeth.

Ac yn sgil y ffilm yma mae Manon hefyd yn cael cwmni y cyfarwyddwr a鈥檙 cynhyrchydd Ll欧r Morus, yr awdur Ruth Richards a鈥檙 cyn-athrawes ddrama Lowri Cynan i drafod sut mae mynd ati i gyflwyno straeon hanesyddol mewn ffyrdd creadigol.

Ac i barhau ym myd y ffilmiau, mae'r cynhyrchydd Branwen Cennard yn trafod ei chysylltiad hi hefo鈥檙 ffilm 'Effi o Blaenau', ac mae awdur gwreiddiol y ddrama lwyfan, 'Iphigenia in Splott', Gary Owen yn ymuno i sgwrsio am egin y gwaith creadigol.

29 o ddyddiau ar 么l i wrando

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Ddoe 18:00

Darllediadau

  • Dydd Sul 13:00
  • Ddoe 18:00