Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Elgan Rhys, prosiect 'Sownd', arddangosfa 'Ffasiwn' a Kayley Roberts

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond with Manon Steffan Ros.

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Yn y rhaglen heddiw mi gawn ni argraffiadau y ffotograffydd Betsan Haf Evans o鈥檙 arddangosfa 'Ffasiwn' sydd ymlaen yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd ar hyn o bryd.

Mae bardd mis Mehefin 麻豆社 Radio Cymru, Kayley Roberts yn galw heibio'r stiwdio am sgwrs gyda'i cherddi.

Trafod eu harddangosfa 鈥楽ownd鈥� yn yr Instituto Santa Maria della Piet脿 yn Castello, Fenis mae Manon Awst a Dylan Huw ac fe gawn glywed hefyd sut mae eu gwaith yn treiddio i gymunedau ar hyd a lled Cymru yn sgil y cyflwyniad creadigol yma.

Ac mae Elgan Rhys yn rhannu ei brofiadau cyn lansio ei ail nofel 'Plesera'.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 22 Meh 2026 18:00

Darllediadau

  • Sul 21 Meh 2026 13:00
  • Llun 22 Meh 2026 18:00