Hannah Parr
Beti George yn holi Hannah Parr athrawes, bridwraig ceffylau a chyflwynydd o Llangeitho. Beti George interviews Hannah Parr horse breeder in Llangeitho and presenter.
Beti George sydd yn cael cwmni Hannah Parr sydd yn sylwebu ar S4C yn y Sioe Frenhinol yng Nghymru ac yn Horse of the year.
Mae Hannah hefyd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan; yn fridwraig ceffylau yn Llangeitho; ac mae ganddi siop ddillad yn Aberaeron sydd yn apelio at bobol sy'n byw yng nghefn gwlad, ac mae hi'n cael cymorth ei rhieni i redeg y busnes ac i ofalu am y ceffylau.
Fe symudodd y teulu i Gymru o Birmingham pan oedd Hannah yn 5 oed, 'roedd hi'n fodlon symud os oedd ei th芒d yn fodlon prynu dolffin neu geffyl iddi. Cadwodd ei thad ei air, a daeth y merlen yn ddechrau ar daith newydd i鈥檙 teulu, a fyddai鈥檔 cysylltu鈥檔 agos 芒 gyrfa Hannah heddiw.
Mae hi鈥檔 cystadlu mewn dosbarthiadau arddangos ceffylau a disgyblaethau marchogaeth eraill fel marchogi amatur a dangos mewn llaw.
Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis ambell i gan, yn cynnwys 'Sebona Fi' gan Yws Gwynedd sydd wastad yn codi ei chalon.
Ar y Radio
Darllediadau
- Dydd Sul 18:00麻豆社 Radio Cymru
- Iau 25 Meh 2026 18:00麻豆社 Radio Cymru
Archif Beti a'i Phobol
Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people