Eurig Wyn Jones
Beti George yn holi Eurig Wyn Jones, cyfreithiwr patentau ac arbenigwr mewn deallusrwydd artiffisial. Beti George interviews Eurig Wyn Jones, Patent Attorney.
Eurig Wyn Jones sydd yn wreiddiol o'r Fali, Ynys M么n, yw gwestai Beti George.
Dechreuodd Eurig ei yrfa gyda chwmni Barcud Cyf ynystod y 1990au, gan weithio ar raglenni fel Noson Lawen, Slot Sadwrn a Noc Noc yn yr adran sain.
Ar 么l graddio o Brifysgol Caerdydd, treuliodd bum mlynedd yn Llundain fel dadansoddwr patentau, cyn gweithio i Sony yn yr Almaen fel peiriannydd patent.
Yn ddiweddarach, bu鈥檔 gweithio gyda Johnson & Johnson yn y maes diabetes, lle ysgogwyd ef i ddatblygu ffordd well o fonitro lefelau glwcos. Arweiniodd hyn at sefydlu Ego Medical, cwmni a gododd 鈧�130 miliwn i ddatblygu monitor glwcos parhaus, er na lwyddodd y cynnyrch i gyrraedd y farchnad.
Wedi hynny, cwblhaodd ei gymwysterau fel atwrnai patentau, gan barhau i weithio ym maes eiddo deallusol. Yn fwy diweddar, mae wedi canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial (AI), sydd bellach yn rhan allweddol o鈥檌 waith.
Yn 2017, aeth Eurig i Awstralia i siarad mewn cynhadledd ar ddeallusrwydd artiffisial a phatentau. Yn dilyn marwolaeth sydyn ei dad, dechreuodd ailystyried ei ddyfodol a theimlo bod angen newid cyfeiriad, gyda鈥檙 gobaith o ddychwelyd i Gymru rhyw ddydd.
Mae hefyd yn myfyrio ar ei benderfyniad i sefydlu ei gwmni yn yr Almaen yn hytrach nag yng Nghymru oherwydd diffyg buddsoddiad a chyfleoedd ar y pryd.
Yn ystod y sgwrs, mae鈥檔 rhannu sawl hanes difyr am ei fywyd ac yn dewis pedair c芒n arbennig iddo, gan gynnwys traciau gan Celt a Mei Gwynedd.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Celt
Ddim Ar Gael
- @.com.
- Sain.
- 2.
-
Iris DeMent
You've Done Nothing Wrong
- My Life.
- Warner Brothers.
-
Rhys Meirion
Anfonaf Angel
- Llefarodd Yr Haul.
- SAIN.
- 5.
-
Mei Gwynedd
Cofia Di, Ngeiriau I
- Amser.
- Jig-Cal.
- 02.
Darllediad
- Sul 28 Meh 2026 18:00麻豆社 Radio Cymru
Archif Beti a'i Phobol
Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people