Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar 么l cael ei darlledu

Phyllis Kinney

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Rhaglen o'r archif lle mae Beti George yn holi y diweddar Phyllis Kinney, n么l yn 1997.

Roedd y gantores Phyllis Kinney, a'i diweddar 诺r, Dr Meredydd Evans, yn cael eu hystyried yn ddau o ffigyrau pwysicaf a mwyaf dylanwadol cerddoriaeth draddodiadol Cymru.

Er iddi ddechrau ei gyrfa fel cantores opera yn yr Unol Daleithiau, daeth cerddoriaeth werin yn ganolog i fywyd a gwaith Phyllis. Yng Mangor y cyfarfu 芒'r ysgolhaig a'r cerddor gwerin Mer锚d Evans, ac fe briododd y cwpl cyn symud i fyw i'r Unol Daleithiau ar ddechrau'r 1950au.

Wedi iddynt ddychwelyd i Gymru, ymroddodd Phyllis a Mer锚d i gasglu, diogelu a hyrwyddo traddodiad canu gwerin Cymru, gan sicrhau bod caneuon gwerin yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cyfrannodd Phyllis yn helaeth at y maes drwy gyhoeddi erthyglau, papurau academaidd a llyfrau uchel eu parch ar gerddoriaeth.

Dyma gyfle i wrando ar y sgwrs gynnes a chofiadwy Phillys Kinney gyda Beti George yn 1997.

Llun gan Trac

Dyddiad Rhyddhau:

40 o funudau

Ar y Radio

Yfory 01:00

Darllediad

  • Yfory 01:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad