Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond with Manon Steffan Ros.

Mewn rhaglen arbennig mae Manon Steffan Ros yn sgwrsio hefo'r artist arbennig ac unigryw, Dewi Tudur.

Mae Dewi Tudur, sydd o'r Wyddgrug yn wreiddiol, yn adnabyddus am ei dirweddau tawel, myfyriol, a'i ddefnydd sensitif o liw a gofod gwag. Mae ei dirweddau Cymreig yn deimladwy ac yn tueddu i graffu ar nodweddion sydd ddim i'w gweld yn aml mewn celf. Ond, mae Dewi hefyd yn cael ei ysbrydoli gan dirwedd Ewropeaidd, yn enwedig ar 么l cyfnod yn byw a gweithio yn Tysgani yn Yr Eidal.

Yn rhan gyntaf y rhaglen mae Manon yn ymweld 芒 Dewi yn ei gartref yn Northwich, yng ngogledd Lloegr, a hynny ychydig ddyddiau cyn iddo ef a'i wraig symud i fyw i Dde Ffrainc.

Ac yna, chwe mis ar 么l iddo adael Northwich, mae Manon yn cael sgwrs arall hefo fo i weld sut mae ef a'r teulu wedi setlo mewn gwlad ddiethr.

Yn ogystal 芒 hyn, mae Manon yn cael cwmni Rolant Powell o Oriel Ffin y Parc, Llandudno i drafod perthynas Dewi efo'r oriel yma a pham ei fod yn artist o bwys ym myd celf gyfoes Cymru.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 14 Medi 2026 18:00

Darllediadau

  • Sul 13 Medi 2026 13:00
  • Llun 14 Medi 2026 18:00