Main content

Twm Morys, adolygiad o 'Dadra' a'r artist Elfyn Lewis

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond with Manon Steffan Ros.

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Roedd Jan Morris yn un o ffigyrau mwyaf unigryw a dylanwadol llenyddiaeth Cymru a'r byd ac mae Manon yn cael cwmni ei mab, Twm Morys, a hynny ar drothwy darlledu dwy raglen ddogfen ar S4C sydd yn cael eu cyflwyno gan Twm yn dilyn hanes rhyfeddol ei bywyd, o'i dyddiau fel newyddiadurwr a theithiwr enwog i'w statws fel un o awduron mwyaf parchus yr ugeinfed ganrif. Mae'r gyfres newydd hon yn archwilio ei pherthynas ddofn 芒 Chymru, ei bywyd teuluol, a'r gwrthgyferbyniadau a'r dirgelwch a wnaeth Jan Morris yn gymeriad mor hynod a chofiadwy.

Yn ogystal 芒 hyn mae Casia Wiliam yn adolygu drama lwyfan ddiweddaraf Theatr Bara Caws, 'Dadra', ac mae'r artist Elfyn Lewis yn trafod ei arddangosfa 鈥極'r Afon i'r M么r鈥� sydd newydd agor yn Gallery Ten, Caerdydd.

4 o ddyddiau ar 么l i wrando

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 21 Medi 2026 18:00

Darllediadau

  • Sul 20 Medi 2026 13:00
  • Llun 21 Medi 2026 18:00