Carol Blygain: Gwyrth y Geni
Yn Llyfyr y Bywyd cawn weld, o鈥檌 agoryd,
Holl hanes y golud yn glir,
Am stori cenhedliad yr Iesu ein Ceidwad,
Heb ynddo鈥檙 un gwyriad o鈥檙 gwir.
Yn nydd Herod frenin y Baban dilychwin
I deulu cyffredin a roed
Yn rhodd gan y Duwdod i ddangos ei ddyndod
Fel arwydd o鈥檙 undod erioed.
Heb gysgod un cronglwyd, heb wely nac aelwyd,
Anrhydedd ni roddwyd i鈥檞 radd,
Ond cafodd gymwynas, er ised ei hurddas 鈥�
Man benthyg hen gowlas a gadd.
Ac eto, mewn difri, fe ddywed y stori
(Mae hon yn adroddi yn drist),
Wrth gablu yn ddigllon a phoeri melldithion,
Bu鈥檙 angau yn greulon i Grist.
Cymwynas gan wrda o Arimathea,
Wrth fenthyg ei gladdfa yn glau,
Wnaeth ddwyn corff yr Iesu i鈥檞 ogof a鈥檌 gladdu
A maen rhoed i鈥檞 gelu a鈥檌 gau.
Ond yna 鈥檓hen tridiau fe鈥檌 codwyd o鈥檙 angau
A daeth o鈥檌 grafangau yn fyw,
A mwyach mae鈥檔 eiriol dros bob enaid meidrol
I droi rhag y ddiafol at Dduw.
Dewi Pws
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 12/01/2014
-
Englyn: Weiren Bigog
Hyd: 00:17
-
Englyn: Weiren Bigog
Hyd: 00:10
-
Carol Blygain: Gwyrth y Geni
Hyd: 00:51
-
Ateb llinell ar y pryd
Hyd: 00:03